Yws Gwynedd wedi chwarae ei gig olaf?

Mae’n bosib bod Yws Gwynedd wedi chwarae ei gig olaf yng Ngŵyl Rhif 6 ddydd Sul diwethaf wrth iddo gymryd egwyl o leiaf, cyn penderfynu beth ydy dyfodol y band ar ei ffurf presennol.

Wrth sgwrsio â’r Selar yn ei gig yn Neuadd Buddug wythnos diwethaf, cadarnhaodd Yws ei fod wedi penderfynu peidio derbyn unrhyw gigs am weddill y flwyddyn, a fod y band am gymryd cyfnod o seibiant cyn penderfynu beth i’w wneud nesaf.

“Da ni’n gneud Gŵyl Rhif 6 wythnos nesa’, wedyn does na’m byd wedi’i gynllunio achos da ni isho hoe fach i feddwl am sut i fynd a phetha’ ymlaen, neu ddim o gwbl. Jyst cymryd step yn ôl a gweld be sy’n digwydd.”

Brolio Buddug

Wrth drafod y gig yn Neuadd Buddug oedd wedi gwerthu allan ymlaen llawn, roedd yn awyddus i ganmol y trefnwyr am eu gwaith.

“Dwi ‘di chwarae yma unaith o’r blaen i fod yn onast, deunaw o flynyddoedd yn ôl yng Ngŵyl y Gwyniad yn 1999. Yndi mai’n neuadd unigryw ond mae llawer o neuaddau tref fel’ma yng Nghymru sa chdi’n gallu g’neud gigs amwni a ma’n neis bod ‘na bobl yn g’neud gigs achlysurol yma.

“Mae’n bwysig gadael i bobl w’bod bod ‘na betha’ yn mynd i fod ymlaen yn aml, dwi’n meddwl fod nhw ‘di llwyddo i neud hynna – so mae ‘na bobl yn dod nôl ‘ma.”

Artist y foment

Heb os, Yws ydy un o artistiaid Cymraeg mwyaf poblogaidd y foment, os nad y mwyaf poblogaidd. Cafodd wythnos fawr yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Môn eleni, gan hedleinio Gig y Pafiliwn ar y nos Iau, ac fe soniodd am y profiad o gau’r noson.

“Roedd o’n fraint cael gneud o, dwi’m yn gw’bod be sy’n mynd i ddigwydd hefo fo flywddyn nesa’.

“Ella dylia nhw roi hoe fach iddo, dwi’m yn gw’bod lle fedrith o fynd – ‘swn i’n licio gweld Super Furries yna neu noson hefo Band Pres Llarregub hefo artistiaid gwahanol”.

Fo hefyd ddenodd y dorf fwyaf erioed i Faes B wrth iddo gloi perfformiadau’r wythnos yno ar y nos Sadwrn.

“Bach o lwc oedd hynna dwi’n meddwl, mae Steddfod Môn wastad yn mynd i ddenu lot o bobl yna.

“Maes B – honno oedd y dent fwya oeddan nhw ‘di gael ers blynyddoedd, mai’n ŵyl rŵan. Llwythi o bobl ifanc yna, ella sydd ddim yn mynd i gigs Cymraeg fel arfer a heb glywed am rai o’r bands, ma’n wych hynna – achos maen nhw’n gallu mynd adra’n gwybod ‘mbach mwy am gerddoriaeth Gymraeg.

“Odd o’n anhygoel, doeddan ni’m di sylweddoli tan gwylio fo nôl ar Ochr 1 ar y teledu gymaint o bobl oedd yna achos doedda ni’m di gweld shot o’r cefn. Oedd o’n edrych fel petai’r gynulleidfa byth yn gorffan – oedd o’n smart”.

Ffigyrau’r albwm yn drawiadol

Rhyddhaodd Yws Gwynedd ei ail albwm, Anrheoli, yn gynharach eleni, ac yn ôl y cerddor mae ‘r ffigyrau ffrydio ar gyfer y record yn drawiadol

“’Oedda ni’n stiwdio heddiw ag odda ni’n edrych ar streams yr albwm, a dio’m yn golygu llawer o ‘im byd achos dio’m yn swnio’n lot yng nghyfystyr cerddoriaeth dros y byd ar Spotify…ond da ni ‘di cael dros 100,000 o streams rŵan a mai ‘di bod o gwmpas ers mis Ebrill, so mewn tri-bedwar mis mae o ‘di cal dros 100,000 o streams”

“Ma hynna’n golygu lot i fi, dwi’n licio numbers. Ma hon yn anodd i esbonio – ond yn y Deyrnas Unedig ma ‘na 50-60 miliwn o bobl yn siarad Saesneg, felly mae ‘na mond 500-600 mil o bobl yn siarad Cymraeg. Mae’r raddfa yna yn golygu bod ‘na 120 o bobl yn siarad Saesneg i bob un sy’n siarad Cymraeg. Felly mae’r farchnad Saesneg 120 gwaith yn fwy – felly os nei ‘di luosi bob rhif Cymraeg – y farchad potensial chdi ydy 600 mil.

“Os ti’n cyrraedd 10,000 elli di luosi hwnna hefo 120 a elli ‘di weld pa chunk o’r farchnad ti wedi anelu ato. Dwi’n gwbo’ fodo’n swnio’n boring ond ma’n golygu lot i fi. Achos os ti’n gweld rhif fatha 100,000 dio’m yn golygu llawer pan ma’ Justin Bieber yn cael biliwn, ond ‘di hwna ddim yn number go iawn nadi – so ma trio gneud synwyr ohono fo yn helpu fi i gadw chydig bach o obaith hefo’r holl beth.”

Cyngor i fandiau ifanc

Ag yntau’n hen ben ar y busnes canu pop yma erbyn hyn, ac wedi cael llwyddiant ysgubol gyda Frizbee’n gyntaf, ac yna fel Yws Gwynedd, roedd rhaid holi pa gyngor sydd ganddo i artistiaid newydd.

“Ma hwnna’n hawdd – ti’n gigio gymaint a ti’n gallu, hwna di’r ffordd ora i neud o. Pan oedda ni’n cychwyn oedd ‘na fand o’r enw y Gogs aeth ymlaen i fod yr Heights, a natho ni jyst gafel ar ei cotia nhw mewn ffordd a natho nhw fynd â ni i bobman hefo nhw i gigio llefydd doedda ni heb gael cynnig gigio i chwarae am ddim.

“Y mwya’ ti’n neud o – y mwya’ ti’n gwella a mwya’ mae dy ddawn ‘sgwennu ‘di’n gwella hefyd, achos ti jyst yn dod yn gyfforddus hefo fo. Felly ia gigio – does ‘na’m secret!”

Mae posib gweld darn o’r cyfweliad ag Yws yn y fideo HANSH isod:

Geiriau: Elin Siriol