Wrth i 2018 ddirwyn i ben, uwch-olygydd Y Selar sy’n ein tywys trwy ei restr blynyddol o hoff ganeuon y deuddeg mis a fu…
Wrth edrych yn ôl dwi’n credu y gallwn ystyried 2018 fel carreg filltir bwysig yn hanes cerddoriaeth Gymraeg gyfoes. Dyma’r flwyddyn y cofleidiodd y sin y llwyfannau ffrydio digidol o ddifrif, gyda llif cyson o senglau’n cael eu rhyddhau ar lwyfannau digidol trwy gydol y flwyddyn, ac ambell artist yn gweld llwyddiant digynsail ar y llwyfannau hynny.
Er hynny, mae llwyth o albyms wedi’i rhyddhau hefyd ac rydan ni wedi gweld mwy o fideos cerddoriaeth yn cael eu cynhyrchu nag erioed hefyd – mae hynny’n glir o edrych ar y rhestr isod a fformat y clipiau.
Mae dewis fy neg hoff gân o’r flwyddyn bob amser yn her, a dwi’n ddig am fethu a chynnwys cwpl o artistiaid yn arbennig…ond dyma’r 10 uchaf eleni.
10. Am Sêr – Accü
Da oedd gweld cyn aelod y grŵp Trwbador, Angharad Van Rijswijk yn ail-ymddangos ar ffurf ei phrosiect cerddorol newydd Accü yn ystod 2018. Rhyddhaodd ei halbwm llawn cyntaf, Echo the Red, ym mis Hydref ond cyn hynny roedd wedi rhyddhau cwpl o senglau, gan gynnwys ‘Am Sêr’ ddiwedd mis Awst.
Mae yn electro-pop cwyrci sy’n tyfu arnoch chi’n raddol cyn eich meddiannu’n llwyr gyda’i melodi ail-adroddus.
9. Calon dan Glo – I Fight Lions
Mae I Fight Lions o gwmpas ers peth amser, ond ddim wir wedi llwyddo i wneud eu marc ar lwyfannau traddodiadol cerddoriaeth Gymraeg gyfoes rhywsut. Yn rhannol gan eu bod nhw wedi gigio a gwneud eu marc mewn sawl lle llai traddodiadol! Ond wrth ryddhau eu halbwm diweddaraf gyda Recordiau Côsh, label Yws Gwynedd, ym mis Mehefin eleni roedd eu bwriad o dorri mewn i’r farchnad Gymraeg yn amlwg.
Roedd y newid i sŵn y gerddoriaeth yn amlwg o’r dechrau hefyd, yn enwedig wrth iddyn nhw ryddhau eu sengl gyntaf ‘Calon Dan Glo’ ym mis Ebrill. Dwi’n arbennig o hoff o lais Hywel Pitts ar hon a’r newid cywair bach clyfar ar ôl y ddwy gytgan gyntaf – un o anthemau 2018 i mi.
8. Rebel – Mellt
Mae’n teimlo fel petai Mellt o gwmpas ers blynyddoedd, ac er yn ifanc iawn o hyd, maen nhw! Wedi dweud hynny, 2018 oedd y flwyddyn y gwnaeth Mellt eu stamp o ddifrif wrth ryddhau eu halbwm cyntaf, Mae’n Hawdd Pan Ti’n Ifanc, ym mis Ebrill. Ers hynny, maen nhw wedi gigio mwy nag unrhyw un, wedi cipio teitl Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn y Steddfod, a chyrraedd rhestr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig – yr unig record Gymraeg i wneud hynny eleni.
Albwm da iawn ydy Mae’n Hawdd Pan Ti’n Ifanc. Wrth gwrs, mae ‘na draciau arbennig o dda, ond casgliad aeddfed o ganeuon sy’n gweithio gyda’i gilydd ydy rhinwedd mwyaf yr albwm. Dwi’n teimlo bod rhaid cynnwys Mellt ar y rhestr yma, a gan mai ‘Rebel’ ydy prif sengl yr albwm, dyma’r trac dwi wedi setlo arno – chwip o gân.
7. O! Mor Effeithiol – Candelas
Er eu bod nhw wedi rhyddhau albwm, a gigio cryn dipyn yn ystod 2018, mae band Cymraeg amlycaf Cymru fel petaen nhw wedi mynd o dan y radar rhyw ychydig eleni o’i gymharu a blynyddoedd diweddar. Yr unig eglurhad posib sydd gen i am hynny ydy eu bod nhw wedi gosod safonau mor uchel i’w hunain, mae pawb yn disgwyl cynnyrch a gigs gwych ganddyn nhw bob tro bellach!
Ac mae ‘na draciau gwych ar y casgliad diweddaraf, Wyt Ti’n Meiddio Dod i Chwarae – ‘Ddoe Heddiw a ‘Fory’ a ‘Gan Bo Fi’n Gallu’ yn esiamplau da. Er hynny, ‘O! Mor Effeithiol’ ydy’r un sy’n sefyll allan ben ag ysgwyddau uwch y lleill i mi gyda’i llinell fas gadarn, gitârs budr a newid cywair clyfar tua’r diwedd.
6. Cyrff – HMS Morris
Dyma chi fand sydd ddim yn cael clod teilwng. Grŵp dyfeisgar sy’n gweithio’n galed, ac yn cyrraedd cynulleidfaoedd sydd y tu hwnt i lawer o artistiaid o Gymru. Mae’r gerddoriaeth yn arbrofol, yn arallfydol, ac yn cwyrci. Mae ‘Cyrff’ yn arddangos hyn yn berffaith.
5. Y Pwysau – Mr
Mark Roberts – un o gyfansoddwyr a cherddorion pwysicaf ei genhedlaeth…ac ambell genhedlaeth arall hefyd. Dwi am osgoi crybwyll ei fandiau blaenorol, a dweud yn syml fod gweld Mark yn mentro gyda phrosiect unigol am y tro cyntaf, Mr, yn beth bendigedig i ddweud y lleiaf.
Mae albwm Oesoedd yn llawn o draciau cofiadwy – ‘Hen Ffrind’ a ‘Bachgen’ yn ddau sy’n dod i’r meddwl yn syth – ond ‘Y Pwysau’ oedd y sengl a ryddhawyd gan Mark fel rhagflas i’r casgliad, ac mae rheswm da iawn am hynny. Tiwn!
4. Gwenwyn – Alffa
Roedd hi’n amhosib hepgor cân enwocaf 2018 o’r rhestr yma – efallai mai stori gerddoriaeth fwyaf 2018 oedd y ffaith mai ‘Gwenwyn’ gan Alffa oedd y gân Gymraeg gyntaf i gael ei ffrydio filiwn o weithiau ar Spotify.
Mae’r trac, a’r grŵp wedi cael llwyth o sylw ers hynny ac yn prysur wneud ei ffordd at gyrraedd dwy filiwn! Ond, er tegwch, nid yr heip ydy cyfrinach llwyddiant y gân (er fod hynny’n helpu) – mae’n dipyn o diwn hefyd. Ers i’r stori am y llwyddiant Spotify dorri mae’r fideo i’r trac wedi dod yn boblogaidd iawn hefyd a bellach wedi ei wylio dros 15,000 o weithiau.
3. Y Pysgotwr – The Gentle Good
Ella mod i’n meddalu yn fy henaint, ond dwi wrth fy modd efo cerddoriaeth felodig a phrydferth The Gentle Good. Mewn gwirionedd, alla’i ddim beio’r henaint achos dwi wrth fy mod efo stwff y cerddor Gareth Bonello ers i mi ei glywed yn perfformio gyntaf tua 2005 neu 2006.
Enillodd ei albwm diwethaf, yr ardderchog Ruins/Adfeilion, deitl y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2017. Fy hoff gân o’r casgliad hwnnw oedd y trac Saesneg ‘The Fisherman’ sy’n dod yn agos iawn i ‘Llosgi Pontydd’ fel fy hoff gan The Gentle Good. Newyddion da o lawenydd mawr oedd hi wrth glywed fod fersiwn Gymraeg o’r trac i’w gynnwys ar yr EP, Y Gwyfyn, ym mis Chwefror eleni felly. Ac mae hyd yn oed yn fwy hyfryd na’r fersiwn wreiddiol…
2. Y Diweddaraf – Adwaith
Bydd 2018 yn cael ei chofio gan rai fel blwyddyn Adwaith. Mae’r grŵp o Sir Gâr wedi bod ym mhobman dros y flwyddyn ddiwethaf, gan berfformio ar lwyfannau mawr a bach, a chael sylw eang. Mae ganddyn nhw agwedd, a stori i’w dweud – ac mae naratif cryf, ar y cyd â cherddoriaeth dda, yn gallu mynd yn bell.
Fe wnaethon nhw ryddhau eu halbwm cyntaf, Melyn, ym mis Hydref a hynny ar record feinyl lliw, sy’n braf iawn ei weld. ‘Fel i Fod’ ydy’r trac sydd wedi bod yn boblogaidd ar Spotify, ac mae ‘Gartref’ wedi cael tipyn o sylw yn rhannol diolch i fersiwn wedi’i ail-gymysgu gan James Dean Bradfield o’r Manic Street Preachers. Ond i mi, ‘Y Diweddaraf’ ydy eu trac gorau hyd yma diolch i’r riff gitâr budr, bassline cryf, agwedd pynci a neges gref y geiriau.
1. Clarach– Los Blancos
Reit, cyfaddefiad – y gân ‘Datgysylltu’ gan Los Blancos oedd yr un ro’n i wedi setlo arni ar gyfer y rhestr yma nes i mi sylwi ei bod hi ar y rhestr llynedd! Rhyddhawyd ‘Datgysylltu’ fel sengl ym mis Chwefror, ond roedd fideo gan Ochr 1 o gwmpas ers Tachwedd 2017…felly dyna egluro’r dryswch!
Ond, yn fy llith gwreiddiol ro’n i’n crybwyll lletchwithdod o beidio â chynnwys ‘Clarach’ ar y rhestr, felly mae’n amlwg bod ffawd wedi gwneud ei waith ac mae hon llawn cystal trac.
Mi ddois i ar draws Los Blancos gyntaf diolch i demo o’r gân ‘Clarach’ a ymddangosodd ar eu safle Soundcloud dros ddwy flynedd yn ôl. Rhyddhawyd hon yn swyddogol fel sengl yn ar y cyd gyda’r gân ‘Cadi’ ym mis Mehefin ac mae’n esiampl berffaith o’r sŵn unigryw yma maen nhw wedi mireinio dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Dwi wrth fy modd efo’r adeiladwaith diog sy’n arwain at grescendo y gytgan…ac mae gen i fan gwan am bentre glan môr Clarach!
Mae’r fideo isod gan Nico Dafydd hefyd yn gampwaith.
Un o fandiau pwysicaf 2018, ac mae’n werth cadw golwg fanwl arnyn nhw yn 2019