Gig: Gŵyl Pendraw’r Byd – Aberdaron – 31/08 – 01/09
Mae tymor y ffestifals yn dirwyn i ben bellach, ond mae cwpl o wyliau bach neis dros y penwythnos sy’n cynnig rhyw haf bach Mihangel fach neis i ni.
Llanuwchllyn ydy cartref dau o fandiau mwyaf y sin ar hyn o bryd, ac mae Candelas ac Y Cledrau ill dau’n perfformio yng Ngŵyl Llanuwchllyn ddydd Sadwrn – gŵyl fach newydd i’r calendr. Mae hefyd cyfle i ddal y band ifanc (iawn!) Y Storm.
O ŵyl newydd i hen glasur, sef Gŵyl Pendraw’r Byd yn Aberdaron. Dyma chi ŵyl sy’n mynd ers blynyddoedd lawer, a lleoliad anodd ei guro ar lan y môr yn Aberdaron gydag Ynys Enlli’n gefndir. Mae Gai Toms yn perfformio yng Ngwesty’r Llong nos Wener, gyda chlamp o gig i ddilyn nos Sadwrn yn Tŷ Newydd. Ymysg yr artistiaid mae Geraint Lovgreen a’r Enw Da, Gwilym, Gwilym Bowen Rhys a Nar – ymddangosiad prin y grŵp o Lŷn oedd yn reit amlwg ar droad y mileniwm.
Heno mae cyfle i ddal Y Gogs yn y Castell, Abergele ac mae Synnwyr Cyffredin yn chwarae dau gig dros y penwythnos – y cyntaf nos Sadwrn yn Clwb Bach Nefyn, ac yna ar y Maes yng Nghaernarfon bnawn Sul.
Bnawn Sul hefyd, mae Siân James, Patrobas a Glain Rhys yn chwarae yn yr olaf o gyfres gigs hynod lwyddiannus Cantre’r Gwaelod dros yr wythnosau nesaf – 14:30 yn y Bandstand, Aberystwyth.
Cân: ‘Am Sêr’ – Accü
Mae’r grŵp o Gaerfyrddin, Accü, yn rhyddhau eu sengl newydd ar Recordiau Libertino heddiw, 31 Awst.
‘Am Sêr’ ydy ail sengl albwm cyntaf Accü, sef ‘Echo The Red’ a fydd yn cael ei ryddhau’n ddiweddarach yn y flwyddyn eleni.
Prosiect diweddaraf Angharad Van Rijswijk ydy Accü. Bydd enw Angharad yn gyfarwydd i rai ers ei dyddiau gyda’r grŵp Trwbador, a greodd gryn argraff yng Nghymru a thu hwnt rhwng tua 2010 a 2015.
“’Am Sêr’ oedd y gan olaf i mi ei hysgrifennu ar gyfer yr albwm…” meddai Angharad am y sengl newydd.
“R’on i yn cymysgu un o ‘drum takes’ Andy ar gyfer y sengl ddiwethaf ‘Did You Count Your Eyes?’ ac fe wirionais gymaint ar ei berfformiad fe gychwynnais jamio drosto. Roedd fy ffrindiau agosaf i gyd gyda’i gilydd dan un to ac fe aeth y dyddiau yn angof fe tase na ddim fory na ddoe. Fe neidion ni, fe syrthion ni, fe guddion ni, fe gusanon ni. Fe dreuliom gymaint o amser yn syllu ar y sêr.”
Rhyddhawyd sengl ddiwethaf Accü, ‘Did You Count Your Eyes?’, yn ogystal â fideo ar gyfer y sengl nôl ym mis Mai eleni. Mae hon yn dipyn o diwn i’w dilyn:
Record: Cariad Cwantam – Geraint Jarman
Mae wedi bod yn haf arwyddocaol i un o artistiaid pwysicaf cerddoriaeth gyfoes Gymraeg.
Nid yn unig bod Geraint Jarman wedi perfformio mewn noson anhygoel yn Gig y Pafiliwn yr Eisteddfod ddechrau’r mis, ond mae hefyd wedi rhyddhau ei albwm diweddaraf ym mis Gorffennaf.
Fe fydd Geraint hefyd yn chwarae pâr o gigs mawr ym mis Tachwedd eleni – y cyntaf yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar 9 Tachwedd, ac yna’r noson ganlynol yn Pontio, Bangor. Tocynnau ar gyfer y ddau ar werth nawr.
Mae’r albwm newydd allan rŵan ar label Ankstmusik, ac yn profi bod Geraint yn dal i gynhyrchu cerddoriaeth o’r safon uchaf.
‘Addewidion’ ydy un o’r ffefrynnau ni yma yn Selar HQ:
Artist: Nar
Enw anghyfarwydd i’r darllenwyr iau mae’n siŵr, ond mae ‘na gyfle prin i weld Nar yn perfformio’n fyw yn Aberdaron nos Sadwrn.
Ella na fydd y cym-bac yn cyffroi cymaint o bobl ag y gwnaeth rhai Crumblowers a Diffiniad yn y Steddfod, ond roedd Nar yn fand bach digon da a phoblogaidd ar ddiwedd y 1990au a dechrau degawd cyntaf y mileniwm.
Band o Benllŷn oedden nhw a rhan o don fach o fandiau cymharol drwm o ochrau Llŷn a Dyffryn Nantlle ar ddechrau’r 00au, gan gynnwys Eryr (band cyntaf Al a Dafydd Cowbois Rhos Botwnnog) a Bob. Os ydach chi’n mentro i Ŵyl Pendraw’r Byd nos Sadwrn, gallwch chi ddisgwyl tipyn o sŵn a llwyth o riffs gitâr.
Efallai mai yr albwm Narmagedon yn 2004 ydy record amlycaf Nar, er eu bod nhw wedi rhyddhau cynnyrch cyn hynny. Mae ‘na hen erthygl ar archif gwefan Radio Cymru sy’n rhoi bach mwy o hanes Nar. Roedd gwaith celf yr albwm, a ddyluniwyd gan Dylan, gitarydd y grŵp, yn arbennig o gofiadwy.
Ddwy flynedd ynghynt roedden nhw wedi rhyddhau cryno albwm o’r enw nid mor gryno, Dewch i Ddawnsio gyda Nwshgi, Shnwgli a Doctor Raulbic. Ar hon mae’r caneuon mwy bachog sydd efallai’n dal i gael eu chwarae’n achlysurol iawn ar y radio, sef ‘Plant yn Colli Amser’, ‘Gofod Garwyr’ a ‘Gorau Ddyn’.
Mae ‘Gorau Ddyn’ yn arbennig o gofiadwy, yn rhannol oherwydd y fideo gwych yma o ddyddiau rhaglen Garej gyda chwpl o wynebau cyfarwydd (@AledLlanbedrog) yn serennu!
Un peth arall….: Podlediad diweddaraf Y Sôn
Nid yw’n gyfrinach ein bod yn ffans mawr o bodlediad misol (ish) Y Sôn gan Geth a Chris o flog Sôn am Sîn.
Mae’r podlediad diweddaraf mor ddifyr ag arfer, ac yn mynd o dan groen Eisteddfod Caerdydd, gan ganolbwyntio ar y pethau cerddorol wrth gwrs. Mae’r ddeuawd hefyd yn trafod albwm newydd Geraint Jarman yn eu dull trylwyr arferol, yn ogystal â thrafod gwaith celf.
Mae’n haeddu 36 munud o’ch amser heb os.