Nos Wener yma, 16 Chwefror, mewn gig arbennig yn Aberystwyth fe fyddwn ni’n talu teyrged i Heather Jones, gan nodi’r cyfraniad aruthrol mae wedi gwneud i gerddoriaeth Gymraeg dros yr hanner canrif a mwy diwethaf.
Yn perfformio ar lwyfannau Cymru ers 1964, gan ryddhau ei chynnyrch unigol cyntaf union hanner can mlynedd yn ôl, mae hirhoedledd y gantores yn un o’r pethau rhyfeddol am Heather.
Un o’r pethau eraill ydy’r rhestr hir o ganeuon gwych mae wedi eu cyhoeddi dros y degawdau. I brofi hyn, doedd dim amdani ond cynnal pleidlais i ddewis 10 Cân Orau Heather Jones wythnos diwethaf…ac mae’r canlyniadau wedi cyrraedd gyfeillion!
Mae ambell gân amlwg iawn ar goll o’r rhestr, gan gynnwys dwy o’r enwocaf – ‘Jiawl’ a ‘Penrhyn Gwyn’ – yn ogystal â thiwns gwych eraill fel ‘Calon fel Olwyn’ a ‘Mae’r Galon Hon’. Ond ysbryd democrataidd Gwobrau’r Selar, chi sydd wedi dewis, ac mae’r caneuon sy’n eisiau jyst yn pwysleisio cryfder ôl-gatalog Heather. Dyma nhw….
10 Uchaf Caneuon Heather Jones
10. Mae Hiraeth yn Fy Nghalon
9. Mynd yn Ôl i’r Dre
8. Syrcas o Liw
7. Cwsg Osian
6. Ble’r Aeth yr Haul
5. Cân i Janis
4. Nos Ddu
3. Pan Ddaw’r Dydd
2. Cwm Hiraeth
1. Colli Iaith