Mae Recordiau Libertino wedi cyhoeddi y byddan nhw’n rhyddhau sengl newydd gan y grŵp Accü ar 31 Awst.
‘Am Sêr’ fydd ail sengl albwm cyntaf Accü, sef ‘Echo The Red’ a fydd yn cael ei ryddhau’n ddiweddarach yn y flwyddyn eleni.
Prosiect diweddaraf Angharad Van Rijswijk ydy Accü. Bydd enw Angharad yn gyfarwydd i rai fel un hanner o’r grŵp Trwbador a greodd gryn argraff yng Nghymru a thu hwnt rhwng tua 2010 a 2015.
Mae llais Angharad hefyd i’w glywed ar un o ganeuon y grŵp enwog Cornershop, sef ‘Every Year So Different’.
Syllu ar y sêr
“’Am Sêr’ oedd y gan olaf i mi ei hysgrifennu ar gyfer yr albwm…” meddai Angharad am y sengl newydd.
“…ac felly mae hi’n teimlo yn ffres a llawn hwyl i mi. Fe ês i aros mewn hen blasdy i gymysgu’r albwm – plasdy yr oedd fy nhrymiwr a’m cyfaill Andy Fung yn ei warchod am gyfnod.
“R’on i yn cymysgu un o ‘drum takes’ Andy ar gyfer y sengl ddiwethaf ‘Did You Count Your Eyes?’ ac fe wirionais gymaint ar ei berfformiad fe gychwynnais jamio drosto. Roedd fy ffrindiau agosaf i gyd gyda’i gilydd dan un to ac fe aeth y dyddiau yn angof fe tase na ddim fory na ddoe. Fe neidion ni, fe syrthion ni, fe guddion ni, fe gusanon ni. Fe dreuliom gymaint o amser yn syllu ar y sêr.”
Rhyddhawyd sengl ddiwethaf Accü, ‘Did You Count Your Eyes?’, yn ogystal â fideo ar gyfer y sengl nôl ym mis Mai eleni.
Bydd y sengl newydd yn cael ei rhyddhau gan Libertino yn ddigidol yn unig ar 31 Awst, ond dyma hi i chi gael gwrando arni yn y cyfamser