Marged Gwenllian sydd wedi bod yn gwrando ar sengl ddiweddaraf y grŵp o ‘Stiniog, Yr Oria, ar ran Y Selar…
Mae rhywbeth eithaf “techno pop” yn sain y dryms a bâs ym mhennill cyntaf sengl newydd Yr Oria. Mae’r curiad syml yn gadarn ac yn profi pwysigrwydd drwm a bâs fel sylfaen gref, gyda riff y gitârs a’r geiriau’n plethu’n daclus uwch eu pen.
Mae’r defnydd o falsetto a’r riffs muted yn nodweddiadol o waith y cynhyrchydd, Rich Roberts, ac mae hynny’n gwneud y gân yn un hawdd gwrando arni, a radio friendly gyda’r sŵn glân a thaclus.
Gellir meddwl i ddechrau mai cân i’w rhoi ymlaen yn y cefndir yw hon gan ei bod yn ysgafn a hamddenol, ond yna 3 munud i mewn, mae’n cychwyn adeiladu i fod yn rhywbeth mwy. Cawn waedd sy’n “galw allan am Fessiah”, sy’n effeithiol gan ei fod yn ein harwain ni i mewn i uchafbwynt y gân, a hynny mewn ffordd sy’n adlewyrchiad o’r geiriau Beiblaidd trosiadol.
Serch hyn dwi’n teimlo y gallai’r uchafbwynt fod yn fwy pwerus. Byddai defnydd o gordiau dyfnach i gael sŵn ychydig llawnach wedi gweithio efallai. O ystyried bod gwaedd i’w chlywed, mae’r sain ychydig yn fain, a byddai sŵn dyfnach yn fwy o uchafbwynt ar ôl cymaint o adeiladu.
Gellir cwestiynu hefyd os oes angen yr outro ar y diwedd, ond mae’n sicr fod y sengl hon am gael ei chlywed ar y radio droeon, fel blas o’u EP fydd allan cyn bo hir.