Adwaith i deithio gyda Joy Formidable

Mae’r grŵp o Gaerfyrddin, Adwaith, wedi cyhoeddi eu bod yn cefnogi Joy Formidable ar daith yn y flwyddyn newydd.

Bydd y triawd yn perfformio ar daith Brydeinig y grŵp sy’n dod yn wreiddiol o Ogledd Ddwyrain Cymru ym mis Chwefror gan eu cefnogi ar 11 dyddiad sy’n cynnwys ymweliadau â Glasgow, Manceinion a Llundain.

Bydd un ymweliad â Chymru hefyd wrth iddynt berfformio yn Sin City, Abertawe ar 20 Chwefror.

The Joy Formidale

The Joy Formidable ydy Ritzy Bryan, Rhydian Dafydd a Matt Thomas, ac maen nhw wedi hen sefydlu eu hunain ar y lefel rhyngwladol ers sawl blwyddyn.

Rhyddhaodd y grŵp eu pedwerydd albwm, AAARTH ym mis Medi eleni, ac mae wedi cael ymateb arbennig o dda.

Er bod y caneuon yn bennaf yn rai Saesneg, mae’r casgliad diweddaraf yn agor gyda’r trac Cymraeg ‘Y Bluen Eira.’

Dechreuodd y grŵp hyrwyddo’r record hir ddiweddaraf dros yr haf.

Bu iddynt berfformio ar brif lwyfan gŵyl enwog Reading & Leeds, llenwi sioe yn The Lexington yn Llundain, a theithio fel cefnogaeth i’r grŵp enfawr Foo Fighters yn yr Unol Daleithiau a Chanada.

Mae’r tair sengl sydd wedi eu rhyddhau ‘Dance of The Lotus’, ‘The Wrong Side’ a ‘The Better Me’ wedi bod yn boblogaidd iawn ar donfeddi gorsafoedd BBC Radio 1 a BBC 6 Music hefyd.

Adwaith yn mynd o nerth i nerth

Mae’r cyfle i gefnogi grŵp mor amlwg ar daith yn dipyn o sgŵp i Adwaith, a dyma’r datblygiad diweddaraf mewn blwyddyn ryfeddol o lwyddiannus iddynt.

Maent eisoes wedi cefnogi Gwenno ar daith dros yr hydref, yn ogystal â rhyddhau eu halbwm cyntaf, Melyn, sydd wedi cael ymateb ardderchog ac adolygiadau ffafriol iawn mewn cyhoeddiadau uchel eu proffil

Dyddiadau llawn taith The Joy Formidable ac Adwaith:

10 Chwefror –  Arts Centre, Norwich
11 Chwefror  – The Key Club, Leeds
12 Chwefror  – King Tut’s Wah Wah Hut, Glasgow
14 Chwefror  – Think Tank, Newcastle
15 Chwefror  – Gorilla, Manceinion
16 Chwefror  – Rescue Rooms, Nottingham
18 Chwefror  – Wedgewood Rooms, Portsmouth
19 Chwefror  – The Fleece, Bryste
20 Chwefror  – Sin City, Abertawe
21 Chwefror  – O2 Institute3, Birmingham
22 Chwefror  – The Garage, Llundain