Adwaith yn ymuno â Gwenno ar daith

Mae Adwaith a Gwenno wedi cyhoeddi eu bod yn mynd ar daith gyda’i gilydd o amgylch Lloegr fis Hydref gyda chwech dyddiad wedi eu cadarnhau.

Dyma ddau o artistiaid Cymreig mwyaf poblogaidd y misoedd diwethaf, a’r ddau wedi llwyddo i ddenu tipyn o sylw tu hwnt i Gymru fach hefyd.

Os nad ydach chi wedi bod yn byw dan garreg, byddwch yn gwybod bod Adwaith wedi denu llwyth o wrandawyr ar lwyfannau ffrydio dros y cyfnod diwethaf, ac yn ôl ystadegau Spotify, maen nhw’n arbennig o boblogaidd yn Llundain, Istanbul, Amsterdam a Bryste.

Mae’r sengl ‘Fel i Fod’, a ryddhawyd ganddynt ym mis Chwefror, wedi denu dros 100,000 o wrandawiadau ar y llwyfan hwnnw erbyn hyn.

Dyma’r dyddiadau sydd wedi eu cadarnau ar gyfer y daith ym mis Hydref hyd yma:

12 Hydref – Thekla, Bryste

13 Hydref – Now Wave Venue, Manceinion

18 Hydref – Islington Assembly Hall, Llundain

19 Hydref – The Loft, Southampton

20 Hydref – Prifysgol Falmouth

21 Hydref – Prifysgol Caerwysg

Bu’r Selar yn ddigon ffodus i ddal y triawd am sgwrs ar faes Eisteddfod yr Urdd yn Llanelwedd wythnos diwethaf, gan eu holi am y daith, eu halbwm cyntaf, a llwyddiant diweddar.