Mae cynllun Gorwelion y BBC a Chyngor Celfyddydau Cymru wedi agor ei gronfa lansio ar gyfer eleni.
Mae’r gronfa yn agored i unrhyw gerddorion yng Nghymru, ac yn gwahodd ceisiadau am gyllid hyd at £2000.
Nod y gronfa ydy helpu cerddorion a bandiau talentog yng Nghymru i ddatblygu eu gyrfa, ac fel yr awgrymir gan yr enw ‘Cronfa Lansio’ mae’r gronfa ar gyfer artistiaid sy’n dechrau ar eu gyrfa’n arbennig.
Gall y gronfa ariannu amrywiaeth o bethau, ond maent yn chwilio’n benodol am bethau fydd yn mynd â gyrfa’r artistiaid i’r ‘lefel nesaf’.
Efallai bod band wedi cael cyfle i deithio, ond wedi methu fforddio’r costau, neu wedi cael adborth arbennig o dda i demo, ac eisiau recordio trac yn broffesiynol. Ond mae hefyd cyfle i wneud cais am arian i brynu offer newydd sy’n allweddol i ddatblygu gyrfa’r artist.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ydy 16 Tachwedd, a ceir ffurflen gais ddigidol ar adran Gorwelion o wefan y BBC.