Ail-ryddhau albwm cyntaf Colorama

I nodi 10 mlynedd ers rhyddhau eu halbwm cyntaf, bydd Colorama yn cyhoeddi fersiwn newydd o’r record hir Cookie Zoo.

Bydd y fersiwn newydd o’r albwm yn cael ei ryddhau ar fformat feinyl arbennig, ac mae bellach ar gael i’w rag archebu ar safle Bandcamp Colorama.

Rhyddhawyd Cookie Zoo yn wreiddiol yn Ebrill 2008, ar label Noise McCartney Records, ond fe’i ryddhawyd yn Siapan yn unig. Ac mae hanes difyr iawn ynglŷn â hynny’n cael ei adrodd yn nodiadau clawr y fersiwn newydd sydd wedi eu hysgrifennu gan Carwyn Ellis, y cerddor amryddawn sy’n bennaf gyfrifol am Colorama.

Cewch ddarllen yr hanes yn llawn yn y nodiadau clawr, ond yn gryno, dechreuodd y cyfan yn 2004 wrth i Carwyn recordio ei drac llawn cyntaf, a trac cyntaf yr albwm ‘Sound’ yn 2004. Yn dilyn cyfres o ddigwyddiadau annisgwyl, glaniodd Carwyn yn Siapan i deithio gyda band o’r wlad o’r enw Quruli fel cerddor sesiwn.

Yn ystod y daith bu’r band yn gwerthu copïau o EP tri trac o ganeuon Carwyn, ac arweiniodd hynny ato’n cael cynnig i rhyddhau albwm llawn ar label y band eu hunain, Noise McCartney. Roedd y flwyddyn gron arall nes i’r band ryddhau eu cynnyrch cyntaf yn y DU, sef Magic Lantern Show.

Pecyn arbennig

Mae un o draciau amlycaf y band, a heb os eu trac Cymraeg enwocaf, ‘Dere Mewn’ wedi ei gynnwys ar yr albwm, a bydd croeso mawr i’r casgliad newydd.

Colorama ydy prosiect y cerddor amryddawn, Carwyn Ellis, sydd yn gerddor sesiwn adnabyddus ac wedi chwarae gydag Edwyn Collins a The Pretenders ymysg artistiaid eraill yn ystod ei yrfa.

Mae hefyd wedi bod yn gyfrifol am brosiectau eraill dros y blynyddoedd diwethaf gan gynnwys Zarelli, oedd ag albwm ar restr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig 2016-17, a hefyd Bendith, ei brosiect ar y cyd â Plu a gipiodd deitl Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn Eisteddfod Gendlaethol 2017.

Dywed Colorama bod y fersiwn feinyl newydd o Cookie Zoo wedi’i lapio mewn pecyn arbennig, ac yn cynnwys gwaith celf ychwanegol, a’r nodiadau clawr arbennig wedi eu llunio gan Carwyn.

Bydd y fersiwn newydd o’r casgliad allan ar label Banana & Louie Records ar 9 Tachwedd, ond mae modd rhag archebu ar safle Bandcamp Colorama nawr.

Dyma ‘Dere Mewn’ o stiwdio rhaglen Bandit nôl yn 2009…aaaaaah: