Albwm a fideo Gwilym Bowen Rhys

Rhyddhawyd albwm newydd Gwilym Bowen Rhys, Detholiad o Hen Faledi, dros y penwythnos ar ddydd Sadwrn , 1 Medi.

Label newydd Recordiau Erwydd sy’n gyfrifol am gyhoeddi’r casgliad – y cynnyrch cyntaf i’w ryddhau ar is-label newydd Sbrigyn-Ymborth.

Ffrwyth ymchwil y canwr o Fethel ydy’r casgliad yma, sydd yn record gyntaf mewn cyfres ganddo.

Mae Gwilym wrth gwrs yn gyfarwydd i ddarllenwyr Y Selar fel prif ganwr y grŵp hynod boblogaidd, Y Bandana, ond wedi bod yn canolbwyntio ar gerddoriaeth mwy gwerinol dros y blynyddoedd diwethaf fel artist unigol.

Wedi pori drwy archifau ar-lein y Llyfrgell Genedlaethol, mae Gwilym wedi darganfod perlau o’r gorffennol meddai’r label, gan eu cyflwyno yn ei arddull egnïol ei hun. Dyma fydd y tro cyntaf i rai o’r caneuon gael eu recordio a rhyddhau ar record.

Recordio mewn tair awr

Recordiwyd y casgliad mae’n debyg mewn cwta dair awr gydag un meicroffon yn syth ar dap chwarter modfedd. Stiwdio Sain, Llandwrog oedd lleoliad y gwaith recordio, a hynny ar 9 Mawrth 2018.

Aled Wyn Hughes, sef rheolwr label Sbrigyn-Ymborth oedd cynhyrchydd yr albwm.

Bu amcan.cymru, sef cwmni cynhyrchu Dafydd Hughes, brawd Aled, yno yn y stiwdio yn dogfennu’r gwaith recordio, a bydd ffilm fer yn cael ei chyhoeddi i gyd-fynd a’r record.

Mae modd archebu’r albwm ar safle Bandcamp Gwilym Bowen Rhys rŵan.

Yn y cyfamser, mae Amcan hefyd wedi cynhyrchu fideo ar gyfer y trac ‘Hogyn Gyrru’r Wedd’ a gyhoeddwyd ar sianel fideo Sbrigyn-Ymborth ddydd Gwener diwethaf, ddiwrnod cyn rhyddhau’r albwm.

Mwynhewch….