Bydd Al Lewis yn rhyddhau ei albwm newydd, Pethe Bach Aur, ddyd Gwener yma, 12 Hydref.
Bydd yr albwm yn cael ei ryddhau ar fformat CD yn gyntaf ddydd Gwener, cyn i’r fersiwn digidol gael ei ryddhau bythefnos yn ddiweddarach ar 26 Hydref.
Ac fel rhan o lansiad ei record hir diweddaraf bydd Al yn perfformio cyfres o gigs mewn siopau llyfrau Cymraeg ar ddydd Sadwrn 20 Hydref sef Siop y Pethe yn Aberystwyth; Awen Meirion yn Y Bala; a Palas Print yng Nghaernarfon.
Senglau’n rhoi blas
Rydym eisoes wedi cael blas o’r albwm newydd diolch i’r dair sengl o’r albwm mae Al eisoes wedi’i rhyddhau sef ‘Parlwr Lliw’, ‘Pan Fyddai yn Simbabwe’ a’r ddiweddaraf, ‘Dianc o’r Diafol’, lle mae’n cydweithio â Kizzy Crawford ac a ryddhawyd fis yn ôl.
Yn ogystal â’r ddeuawd gyda Kizzy ar ‘Dianc o’r Diafol’, mae’r albwm newydd yn cynnwys cyfraniadau gan nifer o gerddorion gwadd adnabyddus – Sim Voices (‘Pan Fyddai yn Simbabwe); Owen Powell o Catatonia (ar ‘Pethe Bach Aur’, Richard Llewellyn o’r band Dom (ar ‘Lliwiau Llon’) a hen gyfaill Al, Arwel Lloyd, Gildas.
Recordiwyd yr albwm yn stiwdio newydd Al yng Nghaerdydd, sef Stiwdio’r Bont. Nid stiwdio gyffredin mo hon chwaith gan ei bod wedi’i lleoli mewn ‘shipping container’ sy’n ran o gynllun Shipping Container Studios. Am y tro cyntaf, Al Lewis ei hun sydd wedi cynhyrchu’r albwm newydd.
Cyfyrs
Mae Al yn adnabyddus am gynnig dehongliadau o ganeuon cerddorion eraill ar ei albyms, ac mae tair cyfyr ar yr albwm newydd sef Gyda Gwên (Catatonia), Caru’n Ara (Caryl Parry Jones) a Môr o Gariad (Meic Stevens).
I gyd-fynd â rhyddhau’r albwm, bydd Al hefyd yn rhyddhau ei bedwaredd sengl o’r record ar 12 Hydref, sef ‘Lliwiau Llon’, trac 3 ar y casgliad.
Y tu hwnt i gynlluniau rhyddhau’r albwm, mae Al hefyd yn gweithio ar hyrwyddo ei sioeau Nadolig cyfarwydd yng Nghaerdydd. Am y chweched flwyddyn yn olynol bydd yn cynnal ‘Sioe Al Lewis a’i Ffrindiau’ yn Eglwys St Ioan ym Mhontcanna ar 14 a 15 Rhagfyr. Yn ôl y cerddor mae dros hanner y tocynnau eisoes wedi’u gwerthu.