Albwm Cymraeg y Flwyddyn: Mellt yn mynd â hi

Mellt gipiodd deitl Albwm Cymraeg y Flwyddyn eleni am eu record hir gyntaf, Mae’n Hawdd Pan Ti’n Ifanc.

Mae’r wobr yn cael ei dyfarnu’n flynyddol yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol, wrth i banel o feirniaid ddod ynghyd i ddewis enillydd o blith rhestr fer o albyms Cymraeg o unrhyw genre.

Eleni oedd y pumed tro i’r wobr gael ei dyfarnu ac mae Mellt yn dilyn ôl traed Bendith (2017), Sŵnami (2016), Gwenno (2015) a The Gentle Good (2014) fel enillwyr y teitl.

Bwriad y wobr yw dathlu pob math o gerddoriaeth Gymraeg sy’n cael ei ryddhau yng Nghymru ar hyn o bryd, a’r cyfnod rhyddhau dan sylw eleni oedd 1 Mai 2017 hyd at ddiwedd Ebrill 2018.

O dipyn i beth, dim ond gwasgu mewn i’r cyfnod wnaeth Mellt wrth iddynt ryddhau Mae’n Hawdd Pan Ti’n Ifanc ar label JigCal ddiwedd mis Ebrill eleni.

Maen Hawdd Pan Ti’n Ifanc

Mae’n Hawdd Pan Ti’n Ifanc ydy albwm llawn cyntaf Mellt, y grŵp sy’n dod yn wreiddiol o Aberystwyth, ond sydd bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd ers cwpl o flynyddoedd.

Llun: Y Selar

Recordiwyd yr albwm yn y brifddinas hefyd, yn Stiwdio Seindon dan oruchwyliaeth y cynhyrchydd Mei Gwynedd, sydd hefyd yn rheoli label JigCal.

Gwnaed y cyhoeddiad ynglŷn â’r albwm buddugol gan Lisa Gwilym mewn seremoni ar Lwyfan y Maes yn yr Eisteddfod ar ddydd Iau 9 Awst.

Wrth ymateb i’r wobr ar eu cyfrif Twitter, meddai Mellt am y newyddion: “Mor hapus dweud bod LP cynta ni wedi ennill wobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2018 – wedi cael wythnos anhygoel.”

Dyma’r 10 albwm oedd  wedi cyrraedd y rhestr eleni:

  • Band Pres Llareggub– Llareggub
  • Blodau Gwylltion– Llifo fel Oed
  • Bob Delyn a’r Ebillion– Dal i Redeg Dipyn Bach
  • Gai Toms– Gwalia
  • Gwyneth Glyn– Tro
  • Mellt – Mae’n Hawdd Pan ti’n Ifanc
  • Mr Phormula– Llais
  • Serol Serol
  • Y Cledrau– Peiriant Ateb
  • Yr Eira– Toddi

Dyma recordiad Ochr 1 o Mellt yn perfformio ‘Rebel’ o’r albwm ar lwyfan Maes B wythnos diwethaf: