Albwm cyntaf Mellt ar y ffordd

Un o bytiau newyddion mwyaf cyffrous mis Mawrth hyd yma heb os ydy hwnnw bod albwm cyntaf Mellt i’w ryddhau yn fuan iawn.

Rydan ni’n gwybod ers sbel bod triawd Mellt – Glyn, Ellis a Jacob – wrthi’n recordio eu record hir gyntaf ers peth amser, ond rydan ni’n gwybod bellach bod yr albwm i’w ryddhau ar 20 Ebrill.

Cyhoeddwyd hefyd mai Mae’n Hawdd Pan Ti’n Ifanc fydd enw’r casgliad, a’i fod yn cael ei ryddhau ar label JigCal, sef label Mei Gwynedd, y gwr sydd hefyd yn gyfrifol am gynhyrchu’r albwm.

Y cynnyrch diwethaf gan Mellt oedd eu EP Cysgod Cyfarwydd a ryddhawyd yn 2014 ar JigCal. Er hynny maen nhw wedi bod yn un o’r artistiaid oedd yn rhan o gynllun Gorwelion yn 2015 ac maent wrth gwrs wedi hen sefydlu eu hunain ar y sin fyw yng Nghymru a thu hwnt.

Rhyddhau sengl wythnos nesaf

Yn ôl yr wybodaeth ddaeth i law Y Selar, fe addawodd Glyn, canwr Mellt, iddo ei hun a’r band y byddai’r sengl gyntaf oddi ar yr albwm yn dod allan cyn ei ben-blwydd yn 21ain oed.

Ac yn wir, bydd sengl swyddogol gyntaf yr albwm, ‘Rebel’, yn cael ei rhyddhau ar 12 Mawrth, sef union ddiwrnod pen-blwydd Glyn!

Dyma’r gigs lle medrwch ddal Mellt yn perfformio nesa’:

17.03.18 – Neuadd Buddug Bala (Lansiad albwm Y Cledrau)
24.03.18 – Y Parrot, Caerfyrddin

Dyma’r hyfryd ‘Oer’ o EP cyntaf Mellt, Cysgod Cyfarwydd: