Mae’n bur amlwg i unrhyw un sydd wedi bod yn sgowtio artistiaid cerddorol Cymru dros y cwpl o flynyddoedd diwethaf bod Gwilym yn debygol o sefydlu eu hunain fel un o brif fandiau’r wlad dros y blynyddoedd nesaf.
Ers y dyddiau cynnar, mae ganddyn nhw ddilyniant sylweddol, sef cynhwysyn hollbwysig yn y rysáit i fand newydd sydd am wneud eu marc.
Efallai na ddylai fod yn syndod felly i glywed bod albwm cyntaf y grŵp ifanc o Wynedd a Môn wedi’i croesi’r ffigwr o 100,000 ffrydiad ar Spotify.
Rhyddhawyd eu record hir gyntaf, Sugno Gola, erbyn y Steddfod elendi ar label Recordiau Côsh yn dilyn rhyddhau cyfres o senglau gan y pedwarawd. ‘Fyny ac yn Ôl’ oedd y sengl olaf yn y gyfres i’w rhyddhau cyn yr albwm ddechrau mis Gorffennaf. Ffilmiwyd fideo gan y band i gyd-fynd â’r sengl, ac mae’r trac wedi bod yn hynod boblogaidd ar y tonfeddi ers hynny.
Ac mae’n ymddangos bod yr albwm cyflawn wedi bod yn hynod boblogaidd ymysg defnyddwyr Spotify wrth iddyn nhw gyrraedd y ffigwr sylweddol o 100,000 ffrydiad.
Bydd unrhyw un sy’n ei ddilyn ar Twitter yn gwybod bod rheolwr label Côsh, sef Yws Gwynedd, yn dipyn o arbenigwr ar ystadegau Spotify ac yn y gorffennol wedi llunio rhestr o ganeuon Cymraeg unigol sydd wedi croesi 100,000 ffrydiad ar y cyfrwng.
Gyda dim ond llond llaw o ganeuon ar y rhestr honno, mae’r ffaith bod albwm cyflawn Gwilym wedi’i ffrydio dros 100,000 o weithiau yn drawiadol ac yn arwydd o boblogrwydd y grŵp.
Cefnogaeth
Meddai’r band eu bod yn falch iawn o lwyddiant yr albwm hyd yma, ac wedi eu rhyfeddu o weld ei boblogrwydd ar Spotify. Maent hefyd wedi cael rhywfaint o syndod wrth weld pa ganeuon unigol ydy’r mwyaf poblogaidd ar y cyfrwng hwnnw.
“[Y gân] ‘Cysgod’ yn sicr sy’ di cael yr ymateb gorau yn ystod gigs” meddai Llew o’r band.
“Un o uchafbwyntiau’r haf i’r band oedd cael Alun ac Ifan o’r Cledrau i ymuno â ni ar y percussion ar lwyfan Maes B yn ystod y gân.
“O ran streams, ‘Llyfr Gwag’ sy’ di cael yr ymateb gorau, sy’n syndod i ni gan fod hen fersiwn ohoni ar gael ar Soundcloud ac YouTube ers llynedd. O’n i’n meddwl fysa pawb di cael digon arni erbyn rŵan!”
Wrth drafod llwyddiant yr albwm mae Llew yn awyddus i gydnabod y gefnogaeth mae’r band wedi’i gael, ac wrth wneud hynny’n awgrymu bod mwy i ddod yn fuan gan Gwilym.
“Ond i feddwl bod dim ond deufis ers i ni ryddhau yr albwm, ma’r ymateb di bod yn wych a ‘da ni isho diolch i bawb am y gefnogaeth ‘da ni wedi’i gael.
“Gobeithio y gwnawn nhw sticio efo ni tan i ni ryddhau rwbath arall!”