Albwm Mellt i’w ryddhau ar CD

Wedi galwadau o sawl cyfeiriad, o’r diwedd mae albwm cyntaf Mellt, Mae’n Hawdd Pan Ti’n Ifanc, i’w ryddhau ar ffurf CD yr wythnos hon.

Rhyddhaodd y triawd  sy’n wreiddiol o Aberystwyth, ond sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd, y casgliad yn wreiddiol nôl ym mis Ebrill eleni, ond ar lwyfannau digidol yn unig.

Er hynny, mae’r albwm wedi derbyn canmoliaeth eang, gan gyrraedd rhestr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig a hefyd gipio teitl Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd.

Gan ystyried llwyddiant Mae’n Hawdd Pan Ti’n Ifanc, mae llawer, gan gynnwys rhai o gyfranwyr Y Selar, wedi bod yn galw am fersiwn feinyl neu CD o’r albwm, ac wythnos diwethaf cyhoeddodd label JigCal eu bod yn rhyddhau fersiwn CD nifer cyfyngedig.

Bydd modd prynu’r CD o ddydd Gwener yma, 7 Rhagfyr ymlaen, ond does dim modd archebu copïau ar-lein – bydd rhaid prynu copi o’r siopau sy’n gwerthu neu o gigs Mellt. Esgus perffaith felly, fel petai angen un, i drio dal Mellt yn perfformio’n fyw mor fuan â phosib!

Gyda Mellt yn un o fandiau prysuraf Cymru o safbwynt gigio, mae ambell gyfle i’w dal mewn gigs a bachu copi o’r CD rhwng hyn a’r Nadolig. Byddan nhw’n chwarae nos fory, 6 Rhagfyr, yn The Globe yng Nghaerdydd gydag Estrons ac Y Sybs.

Byddan nhw hefyd yn chwarae yn un o gigs olaf lleoliad Y Parot yng Nghaerfyrddin ar 29 Rhagfyr gyda Cpt Smith yn cefnogi.