Mae albwm cyntaf y grŵp gwerin VRï bellach ar gael i’w rag-archebu, a gallwch wneud hynny ar safle Bandcamp y grŵp nawr.
Cyhoeddodd y label gwerin newydd, Recordiau Erwydd, sy’n is-label i Sbrigyn-Ymborth, ychydig wythnosau yn ôl eu bod yn paratoi i ryddhau albwm cyntaf VRï.
Er na fydd yr albwm allan yn swyddogol nes mis Hydref, mae’r label wedi cyhoeddi bod modd rhag-archebu’r record erbyn hyn.
Tŷ ein Tadau fydd enw record hir gyntaf VRï ac mae’n cynnwys 11 o draciau. Dyma fydd yr ail record i’w rhyddhau ar label Recordiau Erwydd, yn dilyn albwm newydd Gwilym Bowen Rhys, Detholiad o Hen Faledi, a ryddhawyd dros y penwythnos ar 1 Medi.
VRï ydy prosiect diweddaraf tri artist gwerin Cymreig cyfarwydd. Yr aelodau ydy Aneirin Jones, sy’n aelod o’r grŵp No Good Boyo; Jordan Price Williams, sydd hefyd yn aelod o No Good Boyo yn ogystal ag Elfen; a Patrick Rimes sy’n fwyaf cyfarwydd fel aelod o’r grŵp gwerin llwyddiannus, Calan.
Mae’r albwm wedi’i gynhyrchu’n annibynnol gan aelodau’r band, ac asgwrn cefn y record ydy cerddoriaeth o’r traddodiad capel Cymreig.
Mae Aneirin Jones yn chwarae ffidil ac yn canu ar yr albwm; Jordan Price Williams yn chwarae’r soddgrwth, bas dwbl, harmoniwn ac yn canu; a Patrick Rimes yn chwarae’r ffidil, fiola, traed a chanu.
1 Hydref ydy dyddiad swyddogol rhyddhau’r casgliad, ac mae VRï wedi cyhoeddi cyfres fer o gigs yng Nghymru a Lloegr i hyrwyddo’r casgliad newydd.
Cyfres gigs VRï:
28 Medi: Cafe Blue Sky, Bangor
3 Hydref: The Aces and Eights, London
11 Hydref: Clwb Acwstig, Llandeilo
12 Hydref: Clothworkers, Leeds
26-7 Hydref: Gŵyl Tân a Môr, Harlech