Bocs Set Brân

Bydd bocs-set yn cynnwys casgliad llawn o gynnyrch stiwdio’r grŵp Cymraeg amlwg o’r 1970au, Brân yn cael ei ryddhau ar ddydd Gwener, 19 Hydref.

Bydd y casgliad newydd yn cael ei ryddhau ar label Rise Above Relics, sy’n un o is-labeli y cyhoeddwr amlwg, Rough Trade, sydd wedi dangos tipyn o ddiddordeb mewn artistiaid Cymraeg dros y blynyddoedd diwethaf gan ryddhau cynnyrch Gruff Rhys yn benodol.

Mae Brân yn un o grwpiau mwyaf chwedlonol, a dylanwadau cerddoriaeth Gymraeg gyda’i sŵn yn torri tir newydd mewn cerddoriaeth Gymraeg gyfoes yn ystod y 1970au.

Roedd aelodau’r grŵp yn cynnwys y brodyr Dafydd a Gwyndaf Roberts, oedd hefyd yn aelodau o Ar Log, Nest Howells, John Gwyn a Keith Snelgrove.

Fe wnaethon nhw ryddhau tri albwm ar Recordiau Sain yn 1970au sef Ail Ddechra ym 1975, Hedfan ym 1976 a Gwrach y Nos ym 1978.

Mae’r bocs-set yn gasgliad o 3 CD, ac mae modd rhag archebu nawr, ond mae hefyd modd archebu ail-gyhoeddiad feinyl o’r albwm cyntaf, Ail Ddechra hefyd. Fe wnaeth Recordiau Sain ail ryddhau fersiwn o Ail Ddechra rai blynyddoedd yn ôl fel rhan o focs set gydag albwm Sidan a Huw Jones.