Boy Azooga yn cipio’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig

Y grŵp o Gaerdydd, Boy Azooga, oedd enillwyr y Wobr Gerddoriaeth Gymreig eleni gyda’i halbwm cyntaf 1, 2, Kung Fu.

Cyhoeddwyd y newyddion mewn seremoni yn y Coal Exchange yng Nghaerdydd nos Fercher (7 Tachwedd), gyda Boy Azooga yn dod i’r brig ym marn y panel o feirniaid sy’n gweithio yn y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru.

Daeth y grŵp i frig y rhestr fer o 12 albwm oedd yn cynnwys y cyn enillwyr, Gruff Rhys a Gwenno, ynghyd â’r cewri Manic Street Preachers. Dim ond un albwm iaith Gymraeg oedd ar y rhestr fer eleni sef ‘Mae’n Hawdd Pan Ti’n Ifanc’ gan y grŵp a ddaw yn wreiddiol o Aberystwyth, Mellt.

Gwobr i Meic

Eleni am y tro cyntaf roedd ail wobr yn cael ei dyfarnu, sef y Wobr Ysbrydoliaeth Gerddoriaeth Gymreig. Dyfarnwyd y wobr i’r canwr gyfansoddwr bytholwyrdd o Solfach, Meic Stevens.

Roedd Boy Azooga yn un o’r ffefrynnau mawr i gipio’r wobr wedi blwyddyn hynod lwyddiannus i’r grŵp, sydd wedi cynnwys ymddangosiad ar y rhaglen deledu uchel ei pharch Later With Jools Holland.

Wrth dderbyn y wobr, dywedodd canwr y grŵp, Davey Newington, ei bod yn gyfnod cyffrous i gerddoriaeth Gymreig.

“Mae’n anrhydedd go iawn i gael cydnabyddiaeth, gyda jyst yr holl bobl syfrdanol eraill sydd wedi’i henwebu” meddai Newington. “Mae’n jyst yn gyffrous i fod yn rhan o gerddoriaeth Gymreig ar hyn o bryd.”

Cefndir y wobr

Sefydlwyd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig gan y DJ Huw Stephens a’r hyrwyddwr cerddoriaeth John Rostron yn 2010. Mae’r wobr wedi ei dyfarnu’n flynyddol ers hynny i un albwm a gyhoeddwyd gan artist Cymreig neu o Gymru sydd wedi’i ryddhau dros gyfnod o flwyddyn.

Enillwyr blaenorol y Wobr ydy Hotel Shampoo gan Gruff Rhys (2010-11), Future of the Left (2011-12), Georgia Ruth Williams (2012-13), Joanna Gruesome (2013-14), Gwenno (2014-15), Meilyr Jones (2015-16) a’r enillydd llynedd  The Gentle Good gyda’r albwm Ruins / Adfeilion.

Rhestr fer yn llawn y wobr eleni:

  • Astroid Boys – Broke
  • Boy Azooga – 1, 2, Kung Fu
  • Bryde – Like an Island
  • Eugene Capper a Rhodri Brooks – Pontvane
  • Alex Dingley – Beat the Babble
  • Catrin Finch a Sackou Keita – Soar
  • Gwenno – Le Kov
  • Toby Hay – The Longest Day
  • Manic Street Preachers – Resisance is Futile
  • Mellt – Mae’n Hawdd Pan Ti’n Ifanc
  • Gruff Rhys – Babelsberg
  • Seazoo – Trunks