Breichiau Hir – label a chynnyrch newydd

Band sydd wedi cael rhyw adfywiad bach ar ddechrau 2018 ydy’r grŵp roc trwm o Gaerdydd, Breichiau Hir.

Roedd y grŵp yn dathlu 10 mlynedd ers ffurfio mewn gig yn Clwb Ifor Bach fis Ionawr, er y bydden nhw y cyntaf i gyfaddef mai ysbeidiol fu eu gyrfa hyd yma ar y cyfan!

Ond, maen nhw wedi bod yn fywiog ar y cyfryngau cymdeithasol dros yr wythnosau diwethaf gan awgrymu bod pethau ar y gweill, a daeth peth newyddion difyr dros yr wythnos ddiwethaf.

Yn gyntaf, cyhoeddwyd mai nhw ydy’r artist diweddaraf i ymuno a label Recordiau Libertino – label sy’n prysur ddatblygu i fod yn un o’r pwysicaf yng Nghymru.

Cyhoeddwyd hefyd y bydd Breichiau Hir yn rhyddhau sengl ddwbl newydd ar 6 Ebrill sef, ‘Mewn Darnau / Halen’, a dywed y datganiad gan y label bod y ddwy gân yma’n ‘diffinio’r band’.

Mae Breichiau Hir yn adnabyddus am eu ‘sioeau pync chwedlonol, sain melodig a’i geiriau deallus sy’n ymdrin â themâu dwys drwy hiwmor dychanol’. Ond, bydd y sengl ddwbl newydd yn dangos egni, cyfeiriad a phwrpas newydd medden nhw. Mae modd gwrando ar y senglau  ar SoundCloud Libertino yn barod.

Dyma ‘Halen’: