Mae Bwca wedi cyhoeddi dau drac newydd ar ffurf sengl ddwbl, gyda’r ddwy i’w clywed ar ei safle Soundcloud nawr.
‘Hoffi Coffi’ a ‘Cno dy Dafod’ ydy’r ddwy gân newydd, ac maent yn dilyn y sengl ‘Pawb di Mynd i Gaerdydd’ a ryddhawyd ganddo ym mis Gorffennaf.
Bwca ydy prosiect cerddorol Steff Rees o Aberystwyth sydd hefyd yn sylfaenydd, ac yn bennaf gyfrifol am fudiad Gigs Cantre’r Gwaelod. Mae cyfres o gigs hynod o lwyddiannus a gynhaliwyd yn y Bandstand yn Aberystwyth newydd ddirwyn i ben gan Gigs Cantre’r Gwaelod.
Steff sydd yn gyfrifol am eiriau a cherddoriaeth Bwca – mae’n canu, chwarae’r gitâr a’r tenor sax yn ogystal â’r slyrpio ar ddechrau ‘Hoffi Coffi’.
Siopau coffi a brathu tafod
Mae Bwca yn prysur greu enw i’w hun fel artist sy’n rhoi sylwebaeth crafog a digon doniol am bethau dydd i ddydd yma yng Nghymru.
Yn ôl Steff, ysgrifennwyd ‘Hoffi Coffi’ wrth hiraethu ar un noson fwll yn y dref ger y lli am y ‘2 for 1 Sex on the Beach’ yn nhafarn Salt, Aberystwyth a gaeodd ychydig flynyddoedd yn ôl er mwyn ei droi’n gaffi.
Mewn tref oedd yn enwog ar un adeg am ei nifer fawr o dafarndai roedd ‘Saltgate’ yn “symboleiddio shifft mawr yn y dref o danco peints tuag at sipian, trafod ac Instagrammo coffi posh” dywed Steff.
Mae ‘Cno dy Dafod’ yn gân arafach gyda diweddglo mawr.
Yng nghanol y goedwig law o ddadlau swnllyd ar Twitter am bynciau gwleidyddol y dydd, mae’r gân wedi ei hysgrifennu i’r bobl broffesiynol hynny sy’n ysu am gael dweud eu dweud ond sy’n methu gwneud hynny oherwydd eu swyddi.
Yn y gân mae Bwca’n gofyn tybed sut siâp fyddai ar y byd yma pe na bai’r dosbarth deallus yma’n gorfod cnoi eu tafodau?
Yn ymuno â Steff Rees ar y recordiadau mae Iwan Hughes o Abergwaun ar y drymiau, Ffion Evans o Bow Street ar y trwmped a Lee Mason o Drefdraeth ar y gitâr fas. Mae Lee yn gyfarwydd am ei waith gyda Lowri Evans ac Ail Symudiad ymysg eraill, ac ef oedd hefyd yn gyfrifol am y broses recordio, cymysgu a mastro. Recordiwyd y caneuon yma yn Stiwdio Fflach, Aberteifi a Stiwdio Lee, Trefdraeth.