Cân gan y grŵp HMS Morris ydy’r ddiweddaraf i’r defnyddio fel cerddoriaeth gefndirol un o fideos Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
Mae caneuon ‘Gwenwyn’ gan Alffa a ‘Fel i Fod’ gan Adwaith eisoes wedi eu defnyddio ar becynnau uchafbwyntiau gemau timau dynion a merched Cymru sydd wedi eu cyhoeddi ar gyfryngau cymdeithasol y Gymdeithas Bêl-droed.
Nawr, maent wedi defnyddio cân Nadoligaidd HMS Morris, ‘This Mistletoe is Mine (Ring a ding a ding)’, ar fideo sy’n cynnwys uchafbwyntiau amrywiol pêl-droed Cymru yn ystod 2018.
Mae’r fideo newydd yn cynnwys uchafbwyntiau o gemau’r prif dimau cenedlaethol dynion a merched, Uwch Gynghrair Cymru a gemau timau plant amrywiol.
Ffrwyth llafur cydweithrediad rhwng y Gymdeithas Bêl-droed a chynllun Gorwelion BBC Cymru ydy’r defnydd o draciau HMS Morris a’r artistiaid eraill ar eu fideos yn ddiweddar.