Wedi digon o ddyfalu ac edrych ymlaen, daeth y newyddion ddydd Llun am fanylion albwm rhif tri Candelas, am eu sengl newydd, ac am barti lansio’r cyfan.
Rhyddhawyd sengl newydd Candelas, ‘Gan Bo Fi’n Gallu’ ar label recordiau I KA CHING ddydd Gwener diwethaf, 11 Mai.
“Yn drymach ac yn fwy eofn nag erioed o’r blaen, mae ‘Gan Bo Fi’n Gallu’ yn ein tynnu trwy ferw dryslyd llif ymennydd Osian Williams, y prif leisydd, cyn glanio mewn cytgan syml sy’n dweud wrth bawb – os ‘ti’n hoffi g’neud rhywbeth, g’na fo!” Dyna eiriau’r datganiad gan PYST yn trafod y sengl newydd.
Bwndel o’r Bala
Datgelwyd fod ‘Gan Bo Fi’n Gallu’ yn ragflas o record hir Candelas – Wyt Ti’n Meiddio Dod i Chwarae? – fydd yn cael ei rhyddhau ar CD ac yn ddigidol ar 22 Mehefin, gyda gig lansio yn un o neuaddau lleol Candelas, Neuadd Buddug yn Y Bala.
Ac mae werth gwneud yn siŵr eich bod chi’n rhag-archebu’r albwm newydd ar wefan I KA CHING cyn gynted â phosib gan bod modd prynu bwndel unigryw sy’n cynnwys bag, cardiau post a bathodynnau gyda’r albwm. Nifer cyfyngedig o’r bwndel arbennig yma sydd ar gael felly cyntaf i’r felin. Os nad ydy paraffanelia o’r fath at eich dant, wel, mae modd rhag-archebu’r albwm ar ben ei hun hefyd!
Dyma fideo byw o’r sengl ‘Gan Bo Fi’n Gallu’ a gyhoeddwyd fis Chwefror: