Cafodd sengl newydd Gwilym ei chwarae am y tro cyntaf mewn amgylchiadau reit unigryw, ac arbennig iawn i un o aelodau’r grŵp dros y penwythnos.
‘Catalunya’ ydy enw sengl ddiweddaraf y grŵp ifanc o Fôn ac Arfon, a cafodd cefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam y cyfle cyntaf i glywed y trac newydd wrth iddi cael ei chwarae trwy uchelseinydd stadiwm y Cae Ras cyn i’r tîm herio Fylde bnawn Sadwrn.
Roedd yn dipyn o sgŵp i Gwilym, a’u label Recordiau Côsh, gyda cherddoriaeth cyn gemau’n cael ei gyfyngu i ganeuon poblogaidd y siartiau fel arfer.
Ond yn ogystal â hynny, roedd yn brofiad arbennig iawn i brif ganwr Gwilym, Ifan Pritchard, sy’n gefnogwr brwd o Glwb Pêl-droed Wrecsam.
Bydd unrhyw un sydd wedi bod yn dilyn gyrfa Gwilym hyd yma’n tystio bod gweld Ifan yn gwisgo crys Wrecsam wrth berfformio yn beth cyffredin iawn, ac mae handlen Twitter y canwr, @caeras99, yn awgrym cryf o’i frwdfrydedd dros y clwb.
“Dwi’m yn gwbod yn iawn sut nath Côsh allu cael y sengl wedi’i chwarae ar y Cae Ras” meddai Ifan.
“Ond ma’r ffaith bod Catalunya wedi cael ei darlledu am y tro cynta yn stadiwm gorau’r byd yn golygu cymaint i mi fel cefnogwr!”
“Dio ddim cymaint i wneud efo’r syniad o gael cefnogwyr yn gwrando, i fod yn onast dwi’m yn cymryd llawar o sylw o’r top 40 bangers sy’n chwara’ cyn gêm! Mae o fwy i wneud efo’r ffaith bod ein miwsic ni fel band yn chwarae yn un o fy hoff lefydd i fynd fel plentyn.”
Cryfhau perthyna pêl-droed a cherddoriaeth
Er bod aelodau eraill â diddordeb, mae Ifan yn cydnabod mai dim ond fo sy’n dilyn y clwb o ddifri’, ac mae’r hyn ddigwyddodd yn cyfuno ei ddau ddiddordeb mawr – Clwb Pêl-droed Wrecsam a cherddoriaeth.
“Roedd o fel gwireddu breuddwyd to’n i ddim yn gwybod oedd yn bodoli” ychwanega Ifan.
Ywain Gwynedd sy’n rheoli label Recordiau Côsh wrth gwrs, ac yn ôl Yws bu’n cydweithio ag Alun Llwyd o Turnstile a Pyst er mwyn dod i’r trefniant gyda Wrecsam.
“Alun Llwyd sortiodd y peth, ia. Mae o wedi bod yn chwilio am ffyrdd mwy diddorol i gael y caneuon ma Pyst yn eu dosbarthu allan i dorf ehangach, a dwi’n meddwl fod hon yn class o ffordd” meddai Yws.
Treuliodd Alun dipyn o’i ieuenctid yn Wrecsam, ac mae ganddo gysylltiadau agos â’r clwb pêl-droed. Ac mae Yws wedi awgrymu ei fod yn chwilio am fwy o ffyrdd i gryfhau’r berthynas rhwng pêl-droed a cherddoriaeth yng Nghymru.
“Ma’r linc pêl-droed yn gweithio i Gwilym debyg, ond hefyd efo cerddoriaeth yn gyffredinol – mae’n agosach na mae o efo rygbi beth bynnag yn fy marn i.”
Mae Y Selar yn deall bydd y sengl newydd yn cael ei chwarae am y tro cyntaf ar raglen Lisa Gwilym ar Radio Cymru nos fory (2 Mai).
Bydd ‘Catalunya’ allan yn swyddogol ddydd Gwener yma, 4 Mai ar Recordiau Côsh, ond yn y cyfamser, dyma ragflas fach:
Fe’i chwaraewyd hi gyntaf ddoe ar y Cae Râs. @_gwilym – ‘Catalyuna’. Sengl allan yn fuan ar @RCoshR. Mwy o fanylion fory ond yn y cyfamser dyma ragflas… pic.twitter.com/2sMLdo7usv
— PYST (@pystpyst) April 29, 2018