Clwb Ifor Bach fydd yn curadu llwyfan ‘Settlement’ Gŵyl y Dyn Gwyrdd eleni, ac mae’r ganolfan amlwg yng Nghaerdydd wedi bod yn trafod eu balchder o gael y cyfle i wneud hynny.
“Ni’n hapus iawn i gyhoeddi mae ni fydd yn curadu Llwyfan y Settlers eleni yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd” meddai cyhoeddiad gan Clwb Ifor.
“Ar ddiwedd mis Awst, bob blwyddyn, mae swyddfa Clwb Ifor Bach yn gwaghau, ac mae pawb yn ymlwybro draw tuag at Crughywel yng nghysgod y Mynyddoedd Du ar gyfer ein hoff ŵyl.
“Mae tocyn Settlers yn rhoi’r cyfle i chi ddarganfod lleoliad yr ŵyl arbennig yma, cyn i’r holl beth ddechrau ar y penwythnos. Mae yna ddigon o bethau i wneud yna.”
Cyhoeddi artistiaid
Cyhoeddwyd hefyd enwau y bandiau ac artistiaid sydd wedi eu cadarnhau i berfformio ar y llwyfan. Bydd HMS Morris, y triawd synthaidd â’i “riffs anhygoel a digon o harmonies”, ymysg yr enwau hynny.
Hefyd ar y rhestr o artistiaid mae’r ddeuawd o Gaerdydd, Eugene Capper a Rhodri Brooks, Sock (band ddaeth yn amlwg ar ddiwedd 2017), a Los Blancos – y band gwych o’r gorllewin gwyllt. Bydd Hlemma yn chwarae hefyd, sef grŵp sy’n cynnwys aelodau o’r bandiau Carw ac Winter Villains.
Un arall ar y rhestr ydy’r artist unigol o Gaerdydd sy’n prysur wneud enw i’w hun, Marged – un sy’n “defnyddio ei llais anhygoel fel prif offeryn ei cherddoriaeth” sydd hefyd yn plethu’r synths â’i geiriau “trawiadol” sy’n creu set dwys ac emosiynol.
Y tri band arall fydd yn chwarae ar y llwyfan fydd My Name Is Ian (triawd â phresenoldeb anhygoel ar y llwyfan), Buzzard (Roc Vintage a pop lo-fi) ac y Threatmantics.
Amrywiaeth eang a gwledd o gerddoriaeth wedi’i baratoi gan Glwb Ifor Bach ar gyfer mynychwyr Gŵyl y Dyn Gwyrdd felly – edrych mlaen!
I’r rhai sydd heb glywed gan y Threatmantics ers sbel, dyma’ch hatgoffa trwy gyfrwng y fideo gwych ar gyfer ‘Wedi Marw’ a gyhoeddwyd…arhoswch am hyn…10 mlynedd yn ôl!!