Cwta wythnos ar ôl rhyddhau albwm unigol cyntaf Mark Roberts, mae’n debyg bod yr holl gopïau eisoes wedi’i gwerthu.
‘Mr’ ydy enw prosiect diweddaraf cyn-aelod Y Cyrff, Catatonia ac Y Ffyrc, a cafodd yr albwm ‘Oesoedd’ ei ryddhau’n swyddogol ar ddydd Gwener 26 Hydref.
Dim ond llond llaw o siopau sy’n gwerthu’r albwm newydd, gyda Mark yn gyfrifol am y mwyafrif o’r gwerthiant ar-lein, a chyhoeddodd y cerddor ddiwedd wythnos diwethaf fod pob copi oedd ganddo wedi mynd.
Er bod ambell gopi ar ôl yn un neu ddwy o siopau, does dim disgwyl i’r rheiny bara’n hir wrth i ganeuon newydd Roberts greu argraff fawr mewn dim o dro.
Oherwydd y llwyddiant ysgubol, dywed Mark ei fod yn bwriadu cynhyrchu dau neu dri chant o gopïau ychwanegol.
Mr Mark
Mark Roberts ydy un o gerddorion, a chyfansoddwyr Cymreig mwyaf dylanwadol y pedwar degawd diwethaf. Ffurfiodd Y Cyrff yn nechrau’r 1980au, ac aeth y band ymlaen i fod yn un o’r bandiau Cymraeg mwyaf cyn iddynt chwalu ym 1992.
Aeth Mark, ynghyd a basydd Y Cyrff, Paul Jones, ymlaen i ffurfio Catatonia yn fuan wedyn ac roedd yn gyfrifol am gyfansoddi nifer o hits mwyaf y grŵp gan gynnwys ‘Mulder and Scully’ a ‘Road Rage’.
Bu Mark hefyd yn cydweithio â Paul Jones, ynghyd â John Griffiths a Kevs Ford, gyda’r grŵp Sherbert Antlers, gan hefyd gyd-weithio â Jones i ryddhau albwm Y Ffyrc yn 2006. Mae hefyd wedi bod yn aelod o The Earth gyda Dionne Bennett, a Dafydd Ieuan (Super Furry Animals).
Bydd cyfweliad arbennig gyda Mark yn rhifyn nesaf Y Selar sydd allan ddiwedd mis Tachwedd.