Mae pedwerydd albwm Cowbois Rhos Botwnnog, sydd â’r enw addas iawn ‘IV’ bellach ar gael ar safle Bandcamp y band.
Rhyddhawyd y record hir gan label Sbrigyn-Ymborth yn wreiddiol yn 2016 ac roedd yn un o albyms amlycaf y flwyddyn honno gyda’r cyhoedd yn ei gosod yn rhif rhestr 10 uchaf albyms pleidlais Gwobrau’r Selar.
Mae modd prynu copi CD o’r casgliad, neu lawr lwytho’n ddigidol ar Bandcamp.
Mae Cowbois Rhos Botwnnog hefyd yn cynnig pecyn arbennig o holl CDs y band am ddim ond £25 ar eu safle Bandcamp ar hyn o bryd. Dim ond nifer cyfyngedig o 50 o’r pecynnau sydd ar gael.
Dyma fideo gwych y trac ‘Deud y Byddai’n Disgwyl’ o’r albwm IV: