Cpt Smith i ryddhau EP ym mis Medi

Bydd y band ifanc gwefreiddiol o Gaerfyrddin, Cpt. Smith, yn rhyddhau EP newydd ar 14 Medi eleni.

‘Get A Car’ fydd enw ail EP Cpt Smith, gan ddilyn yr EP ‘Propeller’ a ryddhawyd ar label Recordiau I KA CHING yn 2016. I KA CHING sy’n gyfrifol am gyhoeddi y casgliad byr diweddaraf gan y grŵp hefyd.

Mae’r band wedi datblygu i fod yn un fandiau amlycaf y sin yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf, ac ers rhyddhau Propeller, meant wedi rhyddhau’r senglau ‘I Hate Nights Out’ a ‘Smaller Pieces’ yn 2017.

Fel tamaid i aros pryd cyn  rhyddhau’r EP ym mis Medi, mae Cpt. Smith wedi rhyddhau’r sengl ‘Get a Car’ oddi ar yr EP fel sengl wythnos diwethaf ar 3 Awst.

Roedd y band hefyd yn perfformio ar lwyfan Maes B ar nos Sadwrn olaf yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd  gan gefnogi Yr Eira.

Mae’r pedwar aelod Cpt. Smith ar hyn o bryd yn astudio cyrsiau addysg bellach ym maes y celfyddydau yng Ngorllewin Cymru, wrth hefyd ganolbwyntio ar gyfansoddi caneuon newydd.

Mae’r canwr Ioan Hazell hefyd wedi dechrau prosiect unigol dan yr enw Names, ar y cyd gyda drymiwr band arall o’r Gorllewin, Ffug, sef Joey Robbins.