Cyrhaeddodd y newyddion cyffrous ynglŷn â pha artistiaid fyddai’n cael eu cynnwys ar gynllun Gorwelion y BBC ddydd Llun diwethaf, 21 Mai.
Unwaith eto bydd 12 o artistiaid ar y cynllun – 6 yn cynhyrchu cerddoriaeth trwy gyfrwng y Gymraeg, a 6 yn y Saesneg.
Prosiect ar y cyd rhwng BBC Cymru Wales a Chyngor Celfyddydau Cymru ydy Gorwelion, gyda’r nod o “arddangos ystod eang o dalentau addawol yng Nghymru” gan ddarparu cyfleoedd i hyrwyddo ac i berfformio.
Mae’r cynllun yn cael ei redeg am y pedwerydd tro eleni, gyda bron i 300 o artistiaid wedi gwneud cais am le ar y prosiect.
Dywed yn y datganiad gan Gorwelion bod ganddynt rhestr amrywiol o’r artistiaid newydd gorau yng Nghymru, ac mae’r rhestr yn arwyddocaol eleni oherwydd ei bod yn cynnwys cerddorion “benywaidd unigryw ac amlwg.”
Mae 10 o’r 12 grŵp/artist sydd ar y rhestr yn cynnwys artistiaid benywaidd unigol neu aelodau benywaidd yn y band. Mae gan bob un o’r 12 artist “sain cyfoes ac unigryw sy’n cwmpasu pob math o gerddoriaeth fel indî, reggae, roc, gwerin a’r blŵs” dywed y datganiad.
Bydd prosiect Gorwelion yn amlwg iawn mewn llawer o’r gwyliau a gynhelir dros yr haf eleni. Y cyntaf ar y rhestr yw’r oedd lansiad y cynllun yng Ngŵyl Ymylol Penwythnos Mwyaf y BBC yn Abertawe dros y penwythnos, ble bu Huw Stephens yn cyflwyno rhai o’r artistiaid yn fyw ar BBC Radio Cymru.
Y chwech artist Cymraeg a ddewiswyd eleni ydy:
Adwaith: Mae’r triawd pync yma o Gaerfyrddin yn cyfansoddi “caneuon dwyieithog gwych” medd Gorwelion, fel ‘Fel i Fod’ sef eu sengl ddiweddaraf, sydd erbyn hyn wedi ei ffrydio dros 120,000 o weithiau ar Spotify erbyn hyn.
Alffa: Band roc a rôl o Lanrug sy’n cynnwys dau fachgen yn eu harddegau sy’n cael eu hysbrydoli gan gerddoriaeth y blŵs, a gurodd ym Mrwydr y Bandiau llynedd yn Eisteddfod Genedlaethol Môn.
Marged: “Seren bop Gymraeg sy’n torri tir newydd” yw Marged, sydd âg llais sy’n “tanio’r dychymyg â geiriau sy’n ymdrin â hunanddarganfod”. Fe gefnogodd hi Katie B mewn sioe gyfrinachol yn Llundain yn ddiweddar.
No Good Boyo: Pedwarawd gwerin cyfoes o Gwmbrân.
Nia Wyn: Cantores “anhygoel a chyfansoddwraig dalentog iawn o Gonwy” yw Nia Wyn. Mae ei gwaith yn cynnwys cerddoriaeth werin, pop a chanu gwlad ac mae hi wedi gweithio gyda Paul Weller ar ganeuon newydd yn ddiweddar.
CHROMA: Triawd roc arswydus o Bontypridd sy’n cael eu harwain gan Katie Hall, un o’r merched blaen “mwyaf carismataidd sydd wedi’u cynhyrchu yng Nghymru ers tro”. Cafodd y band hwn ei ddewis gan BBC Introducing i berfformio yn Reading a Leeds yr haf diwethaf.
Eadyth: Cynhyrchydd electronig Cymraeg ifanc ac unigryw o Ferthyr, ac mae arddulliau trefol, ‘soul’ ac electro yn dylanwadu ar ei sain modern a grymus.
Y chwech artist di-Gymraeg ar y cynllun eleni yw Himalayas o Gaerdydd, I See Rivers – tair merch sy’n byw yn Ninbych-y-pysgod ac sy’n hanu o Norwy yn wreiddiol, Aleighcia Scott cantores reggae o Gaerdydd sydd â steil unigryw, Campfire Social y grŵp o Langollen sy’n creu harmonïau lleisiol “cain a gweadau offerynnol cofiadwy”, Nia Wyn cantoresa chyfansoddwraig dalentog o Gonwy, ag The Pitchforks y band indi-roc ifanc o Donypandy.