Mae FOCUS Wales wedi cyhoeddi manylion llawn Cynhadledd yr ŵyl ar gyfer 2018 .
Cynhelir FOCUS Wales 2018 yn flynyddol mewn lleoliadau amrywiol yn Wrecsam, a bydd yn digwydd eleni ar y rhwng 10 a 12 Mai .
Yn ôl y trefnwyr bydd “rhaglen ryngweithiol helaeth FOCUS Wales bellach yn para 3 diwrnod yn cynnwys trafodaethau panel, sgyrsiau prif araith, sesiynau rhwydweithio, perfformiadau, a chyfarfodydd cyflym.”
“Mae sesiynau rhyngweithiol ar agor i ddeiliaid tocynnau penwythnos, a deiliaid tocynnau diwrnod ar ddiwrnod y tocyn a brynwyd. Cynhelir cynhadledd eleni yng nghanolfan gelfyddydau a marchnad newydd sbon Wrecsam – Tŷ Pawb ar draws 10 – 12 Mai.”
Eleni, bydd nifer helaeth o bobl proffesiynol o’r diwydiant cerddorol yn dod i FOCUS Wales yn ôl y datganiad. Bydd dros 100 o gynrychiolwyr yn teithio i Wrecsam o bob cwr o’r byd gan gynnwys yr UDA, Awstralia, Canada, Corea, Catalonia, Ffrainc, yr Iseldiroedd, Estonia, Sweden, Norwy a mwy. Byddant yn yr ŵyl er mwyn “cynnig eu harbenigedd o’r diwydiant a manteisio ar y rhestr o gerddoriaeth a chelfyddydau gwych sy’n digwydd yn ystod yr ŵyl o dri diwrnod.”
Y prif areithiau
Bydd un o’r prif areithiau’n cael ei thraddodi gan Kliph Scurlock – sydd yn fwyaf adnabyddus fel drymiwr The Flaming Lips.
“Mae cariad Kliph am gerddoriaeth Cymreig wedi golygu ei fod yn perfformio gydag artistiaid fel Gruff Rhys, Gwenno, Gulp a H. Hawkline” meddai’r trefnwyr.
Bydd Kliph yn trafod ei yrfa mewn cerddoriaeth a’i gariad at Gymru ar ddydd Iau 10 Mai.
A Guy Called Gerald fydd yn traddodi’r brif araith arall, sef enw eiconig mewn cerddoriaeth ddawns. Mae A Guy Called Gerald yn sefyll allan am “arloesi cyson, rhagoriaeth a’i amharodrwydd i gyfaddawdu” meddai criw FOCUS Wales.
Taniodd A Guy Called Gerald gynnwrf ‘acid house’ Ewrop gyda’i glasur yn ’88 ‘Voodoo Ray’ a ‘Pacific State’ (fel rhan o 808 State) ac aeth ati i osod y seiliau yn eu lle ar gyfer cerddoriaeth jungle / drum n bass. Bydd Gerald yn sgwrsio ar ddydd Gwener 11 Mai.
Rhai o uchafbwyntiau’r paneli fydd “Y Grefft o Arddangosiadau Rhyngwladol, Merched mewn Cerddoriaeth, Cerddoriaeth Dros Newid yn ogystal â dychweliad Arloesi Digidol i FOCUS Wales, a fydd yn cynnwys pedwar panel yn trafod testunau o amrywiaeth i gydraddoldeb yn y sector ddigidol, i gynyddu ymgysylltu gydag offer digidol. Hefyd, bydd nifer o trafodaethau yn gwbl yn yr iaith Gymraeg, gydag offer cyfieithu wedi darparu.”.
Ymhlith y siaradwyr eraill yn yr ŵyl eleni mae Martin Elbourne (Gŵyl Glastonbury), Una Johnston (SXSW), Sol Parker (Asiantaeth CODA), Bev Burton (Killer B), Feedy Frizzi (Moshi Moshi Management) a Rich Walker (4AD).
Mae bandiau garddwrn (er mwyn sicrhau mynediad ar gyfer y tri diwrnod llawn ar gyfer holl ddigwyddiadau FOCUS Wales) ar gael rŵan o wefan yr ŵyl ac yn costio £40 yr un.