Mae’r Selar yn falch iawn i fod yn cyd-weithio â threfnwyr gŵyl newydd sbon yng Nghaerfyrddin eleni – Gŵyl Canol Dre.
Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal ar Barc Myrddin ar ddydd Sadwrn 14 Gorffennaf, gyda llu o weithgareddau amrywiol ar y safle. Y Selar sy’n gyfrifol am drefnu arlwy gerddorol y prif lwyfan, ac mae amrywiaeth wych o artistiaid yn perfformio.
Bu enwau’r perfformwyr yn cael eu cyhoeddi’r raddol ers peth amser, a bellach mae’r lein-yp yn derfynol wrth i ni gyhoeddi mai Mari Mathias fydd yn agor y lein-yp cerddoriaeth gyfoes ar y dydd.
Bydd Mari yn ymuno â Gwilym Bowen Rhys, Welsh Whisperer, Y Gŵdihŵs, Mellt, Band Pres Llareggub a Huw Chiswell ar y llwyfan perfformio yn ystod y dydd.
Yn ogystal â’r arlwy gerddorol mae llu o weithgareddau celf, llenyddiaeth, drama, digidol, chwaraeon, stondinau a llawer iawn mwy yn ystod y dydd, y cyfan rhwng 11:00 a 20:00. Mae’r mynediad yn rhad am ddim ar gyfer y flwyddyn gyntaf.
Mae’r Welsh Whisperer yn sicr wedi’i gyffroi gan yr hyn sydd ar y gweill:
⭐️⭐️17 DIWRNOD I FYND | 17 DAYS TO GO⭐️⭐??? Neges arbennig gan Welsh Whisperer?????? A little message from Welsh Whisperer???
Posted by Gŵyl Canol Dre on Tuesday, 26 June 2018
Gig nos yn y Parrot
Yn ogystal â’r digwyddiadau ar y prif safle ym Mharc Myrddin, bydd gig ‘ffrinj’ yn digwyddwyd gyda’r nos yn Y Parrot. Cpt Smith, Hyll ac Ifan ydy’r artistiaid sy’n perfformio yn y gig nos, ac mae’r trefnwyr yn annog pawb i brynu eu tocynnau mor fuan a phosib gan eu bod yn prysur werthu allan.
Menter Gorllewin Sir Gâr sy’n bennaf gyfrifol am drefnu’r ŵyl mewn cydweithrediad ag ysgolion cynradd y sir a nifer o bartneriaid eraill.
Dyma amslen lawn y llwyfan perfformio: