Cyhoeddi fideo ‘Fel i Fod’ gan Adwaith

Does ’na ddim dal nôl ar y triawd o Gaerfyrddin, Adwaith ar hyn o bryd, gyda rhyw newyddion cyffrous am y grŵp bron pob wythnos wedi mynd!

Y newyddion diweddaraf ydy bod y grŵp wedi cyhoeddi fideo i un o’u senglau diweddara’ , ‘Fel i Fod’, ar YouTube wythnos diwethaf. Rhyddhawyd y sengl ddwbl ‘Fel i Fod / Newid’ ar 16 Chwefor ar eu label ffydlon, Libertino.

Mae’n argoeli i fod yn flwyddyn fawr arall i’r triawd ‘ôl-pync’ o Gaerfyrddin gan bod albwm ar y ffordd ganddyn hefyd hefyd. Hyd yma rydan ni wedi gorfod bodlonni â senglau rheolaidd gan Adwaith, ond gyda diddordeb cynyddol ynghylch â’r grŵp does bosib bod yr amser in berffaith iddyn nhw ryddhau eu record hir gyntaf.

Cyhoeddwyd wythnos diwethaf hefyd bod Adwaith yn mynd i fod ymysg yr artistiaid sy’n perfformio yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd ar benwythnos 16-19 Awst eleni.

Ac os nad ydy hynny’n ddigon, mae Adwaith wedi eu cynnwys ar lein-yp gwych arall a gyhoeddwyd ar gyfer gig yn Y Parot, Caerfyrddin wythnos diwethaf hefyd. Bydd Mellt a Cpt. Smith yn perfformio yn y gig a drefnir gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ar 24 Mawrth.

Dyma’r fideo ar gyfer ‘Fel i Fod’: