Cyhoeddi fideo ‘Gwres’ gan Lewys

Mae’r cerddor ifanc o Ddolgellau, Lewys, wedi cyhoeddi fideo ar gyfer ei gân ‘Gwres’ ar ei safle YouTube.

‘Gwres’ oedd yr ail sengl i Lewys ryddhau gyda label Recordiau Côsh, ac mae allan ers 13 Gorffennaf eleni.

Cyn hynny roedd wedi rhyddhau’r sengl ‘Yn Fy Mhen’ yn gynharach yn y flwyddyn,  gyda fideo ar gyfer y sengl honno’n cael ei gyhoeddi gan Ochr 1 ym mis Ebrill.

Yn wahanol i ‘Yn Fy Mhen’, mae fideo ‘Gwres’ wedi’i gynhyrchu’n annibynnol ac wedi’i gyhoeddi ar sianel YouTube Lewys. Efallai nad ydy hynny’n syndod gan bod Yws Gwynedd, sy’n rheoli label Côsh, yn gryf o blaid gweld artistiaid yn ffilmio a chyhoeddi fideos eu hunain ar gyfer eu caneuon.

Yn ddiweddar rydym wedi gweld dau o fandiau ifanc eraill Recordiau Côsh, Alffa a Gwilym, yn rhyddhau fideos ar gyfer ei caneuon ‘Gwenwyn‘ a ‘Fyny ac yn Ôl‘.

Ffilmiwyd, cynhyrchwyd, a golygwyd y fideo ar gyfer ‘Gwres’ gan Izak Zjalic a Scott Capon a gallwch wi wylio isod: