Cyhoeddi fideo i gân newydd Mei Gwynedd

Cyhoeddwyd fideo ar gyfer un o ganeuon newydd Mei Gwynedd ddydd Gwener 31 Mai gan HANSH ac Ochr 1.

‘Tyrd Awn i Ffwrdd’ ydy enw’r gân, a daw o’i albwm newydd, sef Glas, fydd allan yn swyddogol ar 29 Mehefin ar label recordio Mei ei hun, sef Recordiau Jigcal.

Bydd noson lansio ar gyfer yr albwm yn cael ei chynnal yn y Galeri, Caernarfon ar 6 Gorffennaf gyda’r band Gwilym yn cefnogi.

Dyma’r fideo newydd – mwynhewch: