Cyhoeddi fideo Mei Emrys – ‘Goleudy’

Mae fideo newydd gan Mei Emrys wedi ei gyhoeddi ar gyfer ei drac ‘Goleudy’ yn ddiweddar.

Mei sydd wedi talu am greu’r fideo ei hun, ac fe’i cynhyrchwyd gan Gwmni Amcan, sef cwmni Dafydd Huws, drymiwr Cowbois Rhod Botwnnog. Dangoswyd y fideo’n gyntaf ar wefan Gymraeg y Llywodraeth.

Saethwyd y fideo gan Dafydd ei hun gan ddefnyddio dau leoliad, sef Capel Engendi, Caernarfon a thraeth Llanddwyn yn ystod y gwanwyn eleni.

Mae’r trac ar albwm unigol cyntaf Mei, Llwch, a ryddhawyd ym mis Medi 2017 ac label Recordiau Côsh.