Bydd fideo newydd sbon Iwan Huws yn cael ei gyhoeddi ar wefan Y Selar nos fory (Iau 3 Mai) am 19:00.
Bydd nifer o ddilynwyr Y Selar yn ymwybodol bod y cerddor gwych o Benllŷn yn paratoi i ryddhau ei albwm unigol cyntaf, Pan Fydda Ni’n Symud, wythnos nesaf ar 11 Mai.
Mae Iwan yn gyfarwydd iawn i ni fel prif ganwr un o grwpiau gorau Cymru dros y ddegawd diwethaf, Cowbois Rhos Botwnnog, yn ogystal â gweithio’n agos â’i wraig dalentog Georgia Ruth Williams. Ond dyma fydd record gyntaf Iwan fel artist unigol, ac mae peth cyffro wedi bod ynglŷn â’r casgliad ers i Iwan berfformio set yng nghanolfan Pontio nôl ym mis Tachwedd wrth gefnogi Richard James.
Bydd yr albwm yn cael ei ryddhau ar CD ac yn ddigidol, a hynny ar label Sbrigyn Ymborth, sy’n cael ei redeg yn rhannol gan ei frawd Aled Hughes.
Mae Iwan eisoes wedi rhyddhau teitl-drac yr albwm, ‘Pan Fydda Ni’n Symud’, fel sengl, law yn llaw â fideo nôl ar ddechrau mis Ebrill.
Ac fel tamaid i aros pryd nes rhyddhau’r albwm, byddwn yn cyhoeddi fideo newydd i’r trac ‘Lluniau’ o’r albwm yn ecsgliwsif ar wefan Y Selar nos fory (Iau, 3 Mai) am 19:00, mewn cydweithrediad â PYST.
Rydan ni wedi bod yn ddigon ffodus i gael cip ar y fideo’n barod, ac mae’n wirioneddol hyfryd, felly cadwch olwg ar gyfryngau Y Selar nos fory am y ddolen i’r fideo.
Yn y cyfamser, dyma flas bach byr o’r fideo i godi chwant arno chi…