Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi’r lein-yps llawn ar gyfer gigs Maes B ym Mae Caerdydd eleni.
Wedi cryn dipyn o ddyfalu, cadarnhawyd wythnos diwethaf mai adeilad Dr Who yn y Bae fyddai cartref Maes B yn ystod wythnos yr Eisteddfod, ac mae’r trefnwyr bellach wedi cyhoeddi pa artistiaid fydd yn perfformio rhwng nos Fercher 8 Awst a nos Sadwrn 11 Awst.
Roedd cryn feirniadaeth llynedd o ddiffyg merched ar lwyfan Maes B, ynghyd â’r cyhuddiad o’r un hedleinars blynyddol yn perfformio ar y nosweithiau. Mae’r Eisteddfod wedi taclo’r cwynion hynny eleni, gan gyhoeddi lein-yp sy’n edrych ychydig yn wahanol i’r arfer.
Gyda dau o’r enwau mawr, Yws Gwynedd a Sŵnami, yn cymryd hoe o gigio ar hyn o bryd, nid yw’n syndod mawr nad ydynt wedi eu cynnwys ar y lein-yp. Wedi dweud hynny, mae’r ffaith nad yw Candelas yn perfformio ym Maes B yn ystod yr wythnos yn fwy annisgwyl, yn enwedig gan fod y band o Lanuwchllyn yn paratoi i ryddhau eu trydydd albwm fis nesaf.
Pwy sy’n perfformio pryd?
Band Pres Llareggub fydd prif fand noson agoriadol Maes B ar y nos Fercher, gyda chefnogaeth gan Y Cledrau, Cadno, Gwilym a DJ Gareth Potter.
Mae ‘na cym-bac annisgwyl ar nos Iau 9 Awst, wrth i Yr Ods ddychwelyd i’r llwyfan am y tro cyntaf ers tua dwy flynedd. Bydd tri o fandiau prysuraf y flwyddyn ddiwethaf, HMS Morris, Omaloma a Serol Serol yn eu cefnogi.
Band arall sydd heb fod yn gigio rhyw lawer yn ddiweddar, ond sydd wastad yn rhoi perfformiad cofiadwy ydy Y Reu, a nhw fydd prif fand nos Wener 10 Awst. Mellt, Chroma a Los Blancos fydd yn cefnogi gyda Elan Evans yn Djio.
Ac yna ar y nos Sadwrn, hedleinars Gwobrau’r Selar a’r band sydd wedi mynd o nerth i nerth ers rhyddhau eu halbwm cyntaf llynedd, Yr Eira sy’n cloi yr wythnos gyda Cpt Smith, Adwaith ac Enillwyr Brwydr y Bandiau yn gefnogaeth.
Does dim amheuaeth bod y lein-yp ychydig yn wahanol i’r blynyddoedd diwethaf, yn bennaf oherwydd bos Yws Gwynedd, Candelas, Sŵnami a Bryn Fôn yn eisiau. Wedi dweud hynny, does dim byd rhy arbrofol a mentrus chwaith gyda bandiau fel Band Pres Llareggub ac Yr Eira wedi dod yn agos iawn at statws y bandiau sydd wedi bod yn hedleinio, a heb os yn haeddu eu cyfle. Mae’r gefnogaeth i’r prif fandiau bob nos yn gref hefyd, gydag enwau fel Chroma, Omaloma, Adwaith ac Y Cledrau wedi gweithio’n galed dros y flwyddyn ddiwethaf ac ennill eu plwyf.
Mae tocynnau gigs Maes B ar werth nawr.
🔻M a e s B • 2 0 1 8🔻
🔹Tocynnau ar werth 29.05.18 🔹
▪️https://t.co/QH2qTcWIlW ▪️16+ oed pic.twitter.com/VGjUbDqiHN
— maesb (@maes_b) May 16, 2018