Cyhoeddi lein-yp Gwobrau’r Selar

Rhag ofn i chi golli’r newyddion wythnos diwethaf, rydan ni wedi cyhoeddi lein-yp llawn perfformwyr noson Wobrau’r Selar sy’n digwydd ar nos Sadwrn 17 Chwefror yn Aberystwyth.

Ymysg perfformwyr eleni mae tri o enwau amlycaf y sin ar hyn o bryd – Yr Eira, Band Pres Llareggub a Mr Phormula – y tri wedi rhyddhau albyms newydd gwych yn 2017, gan hefyd berfformio ar lwyfannau rhai o gigs mwyaf y flwyddyn a fu.

Mae’r lein-yp hefyd yn cynnwys nifer o artistiaid cyffrous sydd wedi torri trwodd yn ystod 2017 gan gynnwys Cadno, Omaloma ac Adwaith – tri band sydd wedi sefydlu eu hunain o ddifri dros y flwyddyn ddiwethaf diolch i gynnyrch newydd gwych a gigio rheolaidd, a sy’n siŵr o fynd o nerth i nerth yn ystod 2018. Band arall sy’n perfformio a sydd wedi cael blwyddyn ardderchog ydy Yr Oria, gan ryddhau eu EP cyntaf ym mis Mehefin a gigio’n rheolaidd.

Yn cwblhau’r lein-yp mae tri o fandiau newydd mwyaf cyffrous y sin sef Pasta Hull, Serol Serol a Gwilym. Datgelwyd mai dyma’r tri band sy’n llunio rhestr fer categori ‘Band neu Artist Newydd Gorau’ y Gwobrau eleni, ac maen nhw’n adlewyrchu’r amrywiaeth eang o gerddoriaeth newydd wych sy’n ymddangos yn y Gymraeg ar hyn o bryd.

Bydd Gwobrau’r Selar, a noddir gan Brifysgol Aberystwyth, yn cael ei gynnal yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, gyda disgwyl i dros 1000 o bobl heidio i’r digwyddiad o bob cwr o Gymru.

Adlewyrchu barn y gynulleidfa

Nod y Gwobrau yn ôl yr arfer ydy dathlu’r flwyddyn gerddorol a fu, ac mae’r lein-yp yn adlewyrchu barn y gynulleidfa ynglŷn â’r artistiaid sy’n haeddu perfformio.

“I bob pwrpas, y gynulleidfa – darllenwyr Y Selar a phleidleiswyr Gwobrau’r Selar sy’n dewis pwy sy’n perfformio ar noson y Gwobrau” meddai Elin Siriol o’r Selar.

“Rydym yn dewis yr artistiaid ar sail pwy oedd yn boblogaidd yn y bleidlais gyhoeddus, gan drio cynnwys cymaint â phosib o enwau sy’n ymddangos ar y rhestrau byr.

“Yr hyn sy’n ddiddorol eleni ydy bod dim un o’r artistiaid ar y lein-yp wedi perfformio ar noson y Gwobrau llynedd. Yn ein barn ni mae hynny’n grêt, ac yn adlewyrchu’r ffaith bod cymaint o artistiaid a cherddoriaeth wych o gwmpas yn y Gymraeg ar hyn o bryd.

“Wrth i ni gyhoeddi’r lein-yp, mae hefyd yn gyfle i ni fanteisio ar y cyfle i ddiolch i’n prif noddwr, Prifysgol Aberystwyth, ynghyd â’r holl noddwyr eraill – heb eu cefnogaeth byddai’n amhosib i ni lwyfannu lein-yp mor gyffrous ond gan gadw’r pris tocyn mor rhesymol.”

Mae tocynnau Gwobrau’r Selar ar werth rŵan, ac yn gwerthu’n gyflym. Mae modd archebu arlein neu mewn nifer o siopau lleol.