Mae trefnwyr Gŵyl Pendraw’r Byd wedi cyhoeddi’r lein-yp cerddorol ar gyfer y digwyddiad eleni.
Cynhelir Gŵyl Pendraw’r Byd yn flynyddol yn Aberdaron ar ddechrau mis Medi ers blynyddoedd maith. Dyddiad yr ŵyl eleni ydy penwythnos 31 Awst – 1 Medi.
Mae perfformiadau a gweithgareddau’r ŵyl yn cael eu gwasgaru o gwmpas tafarnau’r Llong a Tŷ Newydd yn Aberdaron, ynghyd ag ar y traeth yn Aberdaron.
Tafarn y Llong fydd lleoliad gig agoriadol yr ŵyl eleni ar nos Wener 31 Awst, gyda Gai Toms a’r Band yn perfformio.
Yna mae clamp o gig yn Tŷ Newydd ar y nos Sadwrn, gyda Dafydd Llanfihangel, Gwilym, Geraint Lovgreen a’r Enw Da a Gwilym Bowen Rhys yn perfformio.
Un enw diddorol arall ar y lein-yp nos Sadwrn ydy Nar, sef y grŵp roc o Lŷn oedd yn enw amlwg yn y sin o gwmpas troad y mileniwm. Bydd Gŵyl Pendraw’r Byd yn gig diweddar prin iddyn nhw, ond yn ymddangosiad sy’n siŵr o fod yn un poblogaidd.