Mae trefnwyr Sesiwn Fawr Dolgellau wedi cyhoeddi pa artistiaid sy’n perfformio yn yr ŵyl eleni.
Daeth y cyhoeddiad ynglŷn â’r bandiau fydd yn perfformio yn yr ŵyl fis Gorffennaf ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru wythnos diwethaf.
Y newyddion mawr ydy bod un o fandiau mwyaf poblogaidd Cymru, ac un o’r bandiau oedd yn cael eu cysylltu’n agos â’r ŵyl pan oedd ar ei mwyaf, sef Anweledig yn hedleinio.
Mae’r grŵp o Flaenau Ffestiniog yn dathlu 25 mlynedd ers ffurfio eleni, ac eisoes wedi cyhoeddi eu bod yn ail-ffurfio ar gyfer gŵyl Car Gwyllt ar 14 Gorffennaf, sydd wythnos cyn y Sesiwn Fawr. Ond nid yw’n syndod eu bod wedi slotio gig yn Nolgellau i mewn i’w cynlluniau dathlu gan bod y band wedi gwneud sawl perfformiad cofiadwy yn Sesiwn Fawr nôl yn y dydd.
Leinyp llawn
Ac mae rhestr hirfaith o fandiau yn eu cefnogi Anweledig yn y Sesiwn Fawr:
Al Inedita, Ail Symudiad, Sam Kelly And The Lost Boys, Geraint Lovegreen a’r Enw Da, Ye Vegabonds, Omaloma, Patrobas, Ortzadr Taldea, Gwyneth Glyn a Twm Morys, Mr Phormula, Siddi, DnA, Bwncath, Himyrs a’r Band, Y Cledrau, Gwilym, Nantgarw, Daniel Glyn, Hywel Pitts, Esyllt Sears, Jams Thomas, Caset, Arian Mân, Gwilym Bowen Rhys, Dawnswyr Bro Cefni a llawer mwy.
Bydd yr ŵyl yn digwydd yn Nolgellau yng nghefn Tafarn y Ship ar 20-22 Gorffennaf.
Cynhaliwyd digwyddiad lansio yn Nolgellau dros y penwythnos diwethaf fel rhan o’u Gŵyl Gwrw flynyddol.