Mae trefnwyr un o wyliau Cymraeg mawr yr haf, Tafwyl, wedi cyhoeddi lein-yp cerddorol y digwyddiad ar gyfer eleni.
Ar ôl symud i Gaeau Llandaf llynedd, mae’r ŵyl yn symud yn ôl i’w chartref gwreiddiol yng Nghastell Caerdydd eleni, a hynny dros benwythnos 30 Mehefin – 1 Gorffennaf.
Ddoe, fe gyhoeddwyd arlwy gerddorol yr ŵyl ar gyfer 2018, gyda llwyth o artistiaid gwych ac amrywiol yn perfformio yn ôl yr arfer.
Yr enwau fydd yn perfformio ar y Prif Lwyfan eleni ydy Band Pres Llareggub, Bryn Fôn, Eden, Candelas, Chroma, Adwaith, Alun Gaffey, Fleur De Lys, Cowbois Rhos Botwnnog, Meic Stevens, Jamie Smith’s Mabon, No Good Boyo, Y Cledrau, Omaloma, Vri, Daniel Lloyd a Mr Pinc, Lleden, Cadno, Ian Cottrell, DJ Dilys, Garmon, Elan Evans.
Ail lwyfan cerddorol yr ŵyl ydy Y Sgubor a bydd cyfle i weld y canlynol yn chwarae yno: Alys Williams, Gareth Bonello, Gai Toms, Lleuwen, Glain Rhys, Aled Rheon, Welsh Whisperer, Mabli Tudur a’r Band, Danielle Lewis, Tecwyn Ifan, Patrobas, Palenco a DJ Gareth Potter.
Bydd cerddoriaeth fyw yn Yurt T hefyd, gyda Beth Celyn, Hyll, Eady Crawford, Y Sybs, Wigwam, Los Blancos, Serol Serol a Ffracas i gyd yn perfformio.
Cadwch olwg ar wefan Tafwyl am yr holl newyddion diweddaraf ynglŷn â’r ŵyl.