Mae UMCA wedi cyhoeddi lein-yp y Ddawns Ryng-gol eleni.
Cynhelir y ddawns yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth ym mis Tachwedd bob blwyddyn, ac mae’n un o gigs Cymraeg mwyaf tymor yr hydref, gan ddenu hyd at 1000 o fyfyrwyr Cymraeg o holl brifysgolion Cymru a thu hwnt.
Nos Sadwrn 17 Tachwedd ydy dyddiad y Ddawns Ryng-gol eleni, ac wythnos diwethaf fe gyhoeddodd UMCA pa artistiaid fyddai’n perfformio ar y noson.
A hwythau wedi rhyddhau albwm newydd eleni, ac yn ffefrynnau mawr ymysg y myfyrwyr, does dim syndod efallai mai Candelas fydd yn hed-leinio’r gig. Mae un o fandiau prysura 2018, Adwaith, yn perfformio hefyd, ynghyd â’r grŵp ifanc poblogaidd o’r gogledd, Gwilym.
Yn cwblhau’r lein-yp eleni mae I Fight Lions a Los Blancos.
Cadwch olwg am fwy o newyddion a manylion tocynnau ar ddigwyddiad Facebook y Ddawns Rhyng-gol.