Mae pawb yn disgwyl i Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd eleni fod ychydig bach yn wahanol am sawl rheswm.
Ond un peth fydd yn gyffredin ydy bod sicrwydd o lwyth o gerddoriaeth fyw wych, gyda gigs nos Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a Maes B yn siŵr o fod yn uchafbwyntiau.
Hyd yma, mae’r dyfalu’n parhau ynglŷn ag union gynlluniau Maes B, gan gynnwys pa leoliad fydd yn cael ei ddefnyddio yn y brifddinas.
Ac mae prif drefnydd gigs arall yr wythnos, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, wedi achub y blaen ar yr Eisteddfod ei hun gan gyhoeddi mai Clwb Ifor Bach fydd lleoliad eu gigs trwy gydol yr wythnos.
Mae’r Gymdeithas wedi bod yn trefnu gigs trwy gydol wythnos yr Eisteddfod ers degawdau, gan roi’r pwyslais ar ddefnyddio lleoliadau sydd yng nghalon ardal yr Eisteddfod bob blwyddyn. Ac mae hynny’n parhau eleni wrth iddyn nhw ddefnyddio un o leoliadau gigs mwyaf eiconig Caerdydd, sef yr un lleoliad ag â ddefnyddiwyd gan y Gymdeithas y tro diwethaf bu i’r Eisteddfod ymweld â’r Brifddinas yn 2008.
Yn ôl y Gymdeithas, byddan nhw’n cyhoeddi’r lein-yps dros yr wythnosau nesaf, ond maen nhw eisoes wedi cyhoeddi manylion gig cyntaf yr wythnos gyda Bryn Fôn, Adwaith a Plant Duw yn agor arlwy yr wythnos ar y nos Sadwrn cyntaf.
Cadwch olwg ar ffrwd Twitter Gigs Cymdeithas am y newyddion diweddaraf.