Do, daeth yr amser unwaith eto i ddechrau cynllunio un o ddigwyddiadau cerddorol mwyaf Cymru – Gwobrau’r Selar.
Y dyddiad pwysig i chi nodi yn eich dyddiaduron ydy penwythnos 15-16 Chwefror 2019, ac mae’n bwysig eich bod yn nodi’r penwythnos cyfan y tro hwn gan bod rhai newidiadau i’r digwyddiad.
Un peth sy’n gyson gyda’r blynyddoedd diweddaraf ydy mai Undeb Myfyrwyr Aberystwyth fydd y lleoliad ar gyfer y digwyddiad unwaith eto – ‘if it ain’t broke, then don’t fix it’ meddai rhywun rhywdro, ac mae’r lleoliad canolog yn Aberystwyth yn gweithio’n dda i bobl sy’n teithio o’r de ac o’r gogledd.
Er hynny, mae nifer o newidiadau fydd yn rhoi gwedd digon ffresh a gwahanol i’r Gwobrau ym mis Chwefror gan barhau i ddatblygu a gwella’r achlysur gobeithio.
Dwy yn well nag un
Y prif ddatblygiad ydy ein bod wedi penderfynu ymestyn y digwyddiad dros ddwy noson gyda lein-yp llawn yn yr Undeb ar y nos Wener ac y nos Sadwrn.
Byddwch yn ymwybodol o’r gigs llai i ddathlu enillydd ein gwobr Cyfraniad Arbennig dros y ddwy flynedd ddiwethaf – byddwn ni’n mynd a hyn gam ymhellach y tro yma gan gyflwyno nifer o wobrau eraill ar y nos Wener hefyd.
Llai o docynnau
Y newid mawr arall ydy ein bod wedi penderfynu cyfyngu ar y nifer o docynnau sydd ar gael ar gyfer y digwyddiad.
Ym mhob un o’r tair blynedd diwethaf mae pob un o’r 1100 o docynnau ar gyfer nos Sadwrn Gwobrau’r Selar wedi’u gwerthu, ond y tro hwn byddwn ni’n cyfyngu ar y nifer tocynnau i 600 ar gyfer y naill noson a’r llall.
Bydd tocynnau penwythnos ar gael am bris gostyngol i bobl sydd eisiau mwynhau’r ddwy noson, ond y cyntaf i’r felin fydd hi, a’r cyngor ydy i archebu eich tocyn yn fuan rhag cael eich siomi. Byddwn ni’n rhyddhau’r tocynnau wrth i bleidlais Gwobrau’r Selar agor ar ddechrau mis Rhagfyr – byddwch yn barod!
Bydd rhagor o fanylion ynglŷn â’r digwyddiad, ac am bleidlais Gwobrau’r Selar yn cael eu cyhoeddi dros yr wythnosau nesaf felly cadwch olwg ar ein ffrydiau, yn enwedig digwyddiad Facebook y Gwobrau.
Yn y cyfamser, rydan ni wrthi’n ceisio llunio rhestr gyflawn o gynnyrch Cymraeg cyfoes sydd wedi’i ryddhau yn 2018 – rhowch wybod os ydan ni wedi methu unrhyw beth ar y rhestr yma plîs.
Dyma un o uchafbwyntiau’r Gwobrau llynedd – Cadno yn perfformio ‘Bang Bang’: