Cyhoeddi manylion Gŵyl Tregaroc

Mae Gŵyl TregaRoc, a gynhelir yn nhref Tregaron yng Ngheredigion wedi cyhoeddi manylion lawn arlwy yr ŵyl eleni.

Mae’r ŵyl yn cael ei chynnal am y bumed flwyddyn eleni, a hynny ar ddydd Sadwrn 19 Mai. Cyhoeddodd y trefnwyr eisoes mai Eden fydd prif artist y digwyddiad, ond nos Sul (18 Mawrth) fe gyhoeddwyd arlwy’r ŵyl yn llawn.

Lein-yp Tregaron 2018:

Y Sgwâr Fawr (am ddim)
Mari-Elen Mathias
Calfari
RT Dixie Band (Band jazz Rhys Taylor)

Y Sgwâr Fach (am ddim)
Ail Symudiad
Gwilym Bowen Rhys

Clwb Bowlio (am ddim)
Neil Rosser a’r Band

Y Babell Fawr (Tocynnau i 18oed+ yn unig)
#band6
Huw Stephens
Eden

Bydd y tocynnau ar gyfer TregaRoc yn £15, ac yn mynd ar werth nos Wener 30 Mawrth yn Nhafarn y Talbot ble bydd gig gyda Lowri Evans a Lee Mason ar yr un noson.

Fe werthodd tocynnau’r ŵyl i gyd fwy nei lai’n syth llynedd, felly gwell bachu’ch tocyn yn gyflym!