Cyhoeddi podlediad diweddaraf Y Sôn

Mae criw blog cerddoriaeth Sôn am Sîn wedi cyhoeddi pennod ddiweddaraf ei podlediad misol, Y Sôn.

Mae’r podlediad diweddaraf yn un mor ddifyr ag arfer, ac yn mynd o dan groen Eisteddfod Caerdydd, gan ganolbwyntio ar elfennau cerddorol yr ŵyl.

Mae cyflwynwyr y podlediad, Gethin Griffiths a Chris Roberts, hefyd wedi cynnwys cyfweliadau gyda nifer o artistiaid y buon nhw’n eu gweld yn y Steddfod yn y podlediad diweddaraf gan gynnwys bois Mellt ac Alffa.

Mae’r ddeuawd hefyd yn trafod albwm newydd Geraint Jarman, yn ogystal â chael trafodaeth fach am waith celf a’r hyn sy’n gwneud clawr eiconig.

Os oies ganddoch chi hanner awr fach i’w sbario, gwrandewch nawr