Cyhoeddi rhestr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig

Mae trefnwyr y Wobr Gerddoriaeth Gymreig wedi cyhoeddi’r rhestr fer derfynol ar gyfer y wobr arobryn eleni.

Ac mae enwau cyfarwydd iawn i ddilynwyr y sin gerddoriaeth Gymraeg ymysg rheiny sydd ar y rhestr o 12 albwm a gyhoeddwyd, gan gynnwys Gruff Rhys, Gwenno a Mellt.

Sefydlwyd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig gan y DJ Huw Stephens a’r hyrwyddwr cerddoriaeth John Rostron yn 2010. Mae’r wobr wedi ei dyfarnu’n flynyddol ers hynny i un albwm a gyhoeddwyd gan artist Cymreig neu o Gymru sydd wedi’i ryddhau dros gyfnod o flwyddyn.

Enillydd y wobr llynedd oedd The Gentle Good gyda’r casgliad Ruins / Adfeilion (prif lun).

Eleni am y tro cyntaf bydd ail wobr yn cael ei dyfarnu, sef y Wobr Ysbrydoliaeth Gerddoriaeth Gymreig.

Ar ôl cipior wobr gyntaf yn 2010-11 gydar’ albwm Hotel Shampoo, mae Gruff Rhys wedi cyrraedd y rhestr eto eleni gyda’i albwm diweddaraf, Babelsberg.

Un arall sydd wedi cipio’r wobr yn y gorffennol ydy Gwenno gydag Y Dydd Olaf yn 2014-15, ac mae  wedi cyrraedd y rhestr fer eto eleni gyda’i ail albwm cyfan gwbl Gernyweg, Le Kov.

Yr unig albwm Gymraeg ar y rhestr eleni ydy albwm cyntaf y triawd o Aberystwyth, Mellt, sef Mae’n Hawdd Pan Ti’n Ifanc, a gipiodd deitl ‘Albwm Cymraeg y Flwyddyn’ yn yr Eisteddfod Genedlaethol fis Awst.

Bydd Mellt yn falch o fod ar restr sy’n cynnwys y cewr Manic Street Preachers, ac enw arall fydd yn gyfarwydd i ddilynwyr cerddoriaeth Gymraeg ydy Alex Dingley, cyn aelod Texas Radio Band, gyda’i albwm Beat the Babble.

Bydd enw’r albwm buddugol eleni’n cael ei enwi mewn seremoni yng Nghaerdydd ar 7 Tachwedd.

Rhestr fer yn llawn:

  • Astroid Boys – Broke
  • Boy Azooga – 1, 2, Kung Fu
  • Bryde – Like an Island
  • Eugene Capper a Rhodri Brooks – Pontvane
  • Alex Dingley – Beat the Babble
  • Catrin Finch a Sackou Keita – Soar
  • Gwenno – Le Kov
  • Toby Hay – The Longest Day
  • Manic Street Preachers – Resisance is Futile
  • Mellt – Mae’n Hawdd Pan Ti’n Ifanc
  • Gruff Rhys – Babelsberg
  • Seazoo – Trunks