Mae Y Selar yn falch iawn i gyhoeddi dwy restr fer arall ar gyfer Gwobrau’r Selar eleni – y tro yma categorïau ‘Hyrwyddwr Annibynnol Gorau’ a ‘Record Fer Orau’ sy’n cael y sylw.
Y tri hyrwyddwr sydd wedi cyrraedd rhestr fer y categori ‘Hyrwyddwr Annibynnol Gorau ydy Clwb Ifor Bach, Recordiau I Ka Ching a Neuadd Ogwen.
Dyma gategori sydd wedi’i addasu rhywfaint eleni, gan newid y teitl o ‘Hyrwyddwr Gorau’ i ‘Hyrwyddwr Annibynnol Gorau.
“Y teimlad oedd bod angen i’r categori yma fod ganolbwyntio ar ddathlu’r hyrwyddwyr bach sy’n gweithio’n galed i hyrwyddo artistiaid a cherddoriaeth trwy’r flwyddyn” meddai trefnydd Gwobrau’r Selar, Owain Schiavone.
“Felly dyma gyfyngu’r rhestr hir i gynnwys label, lleoliadau bach a hyrwyddwyr unigol yn hytrach na’r sefydliadau mwy sy’n cael eu hariannu’n gyhoeddus, neu’r gwyliau blynyddol mawr – mae rhain yn gwneud gwaith da wrth gwrs, ond yn cael eu gwobrwyo gan y categori ‘Digwyddiad Byw Gorau’.
“Mae’n grêt cael bach o amrywiaeth ar y rhestr – lleoliad sydd wedi’i hen sefydlu yn y brifddinas, lleoliad cymharol newydd yn y Gogledd sy’n prysur ennill ei blwyf, ac un o’r labeli recordiau bach mwyaf bywiog sydd gennym ar hyn o bryd.”
Record Fer
Categori Record Fer Orau oedd un o’r mwyaf diddorol eleni, ac roedd y bleidlais yn frwydr agos iawn.
Mae’r dair record sydd wedi dod i’r brig yn rai cyntaf i’r grwpiau dan sylw, sydd efallai’n adlewyrchu safon uchel ein bandiau newydd ar hyn o bryd.
Y tri ddaeth i’r brig ydy Yr Oria gan Yr Oria, Pyroclastig gan Pyroclastig a Cadno gan Cadno – efallai nad yw enwau’r EPs yma’n hynod o wreiddiol, ond mae’r gerddoriaeth yn amlwg wedi dal y sylw, ac yn adlewyrchu amrywiaeth y gerddoriaeth Gymraeg sydd o gwmpas ar hyn o bryd.
Bydd rhestrau byr y 5 categori sydd ar ôl i’w cyhoeddi yn cael eu rhyddhau rhwng hyn a phenwythnos Gwobrau’r Selar ar 16-17 Chwefror. Bydd yr enillwyr i gyd yn cael eu cyhoeddi ar brif noson Gwobrau’r Selar yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth ar nos Sadwrn 17 Chwefror.