Mae’r gantores electro pop Ani Glass wedi rhyddhau ei sengl newydd ‘Peirianwaith Perffaith’ ar label Recordiau Neb.
Y sengl newydd ydy cynnyrch cyntaf Ani Glass eleni yn dilyn blwyddyn brysur yn 2017.
Rhyddhawyd EP cyntaf Ani, Ffrwydrad Tawel, nôl ym mis Ebrill 2017 cyn rhyddhau fersiwn newydd ac amgen o’r EP, yn cynnwys fersiynau o’r caneuon wedi’i hail-gymysgu gan artistiaid eraill gan gynnwys Carcharorion, Cotton Wolf, Plyci ac R. Seiliog, ym mis Awst y flwyddyn honno.
Yn ôl Ani, mae’r gân yn trafod yr ysfa i “chwilio am hunaniaeth yng nghanol dryswch y ddinas a ffeindio cysur a llonyddwch yng nghysgodion gobaith”.
Cafodd Ani daith i Ganada i berfformio yn ddiweddar fel rhan o ddirprwyaeth Gŵyl Focus Wales yng Ngŵyl Pop Montréal ar 28 a 29 Medi.
Mae’r sengl newydd eisoes wedi cael ymateb da gan Buzz Magazine a gwefan gerddoriaeth The Electricity Club, ymysg llefydd eraill.
“Peirianwaith Perffaith is probably her best statement yet: five minutes of synth prod and vocal flutter that edges towards a climax but always keeps one step away” meddai adolygwr Buzz Magazine.
Mae ‘Peirianwaith Perffaith’ bellach ar gael i’w ffrydio a lawr lwytho ar lwyfannau Spotify ac iTunes.
Mae fideo i gyd-fynd â’r sengl hefyd wedi’i gyhoeddi ar Sianel YouTube Recordiau Neb, mwynhewch…