Cyhoeddi ton gyntaf o artistiaid Focus Wales 2019

Mae Gŵyl Focus Wales yn Wrecsam wedi cyhoeddi enwau’r don gyntaf o artistiaid fydd yn perfformio yn yr ŵyl yn 2019.

Mae’r artistiaid Cymraeg Lewys, Radio Rhydd, HMS Morris, Ani Glass a Blind Wilkie McEnroe ymysg yr 50 o enwau cyntaf sydd wedi eu cyhoeddi ar gyfer yr ŵyl sydd bellach yn un o ddigwyddiadau cerddorol pwysicaf y calendr Cymreig.

Cynhelir gŵyl 2019 mewn lleoliadau amrywiol yn Wrecsam rhwng 16 a 18 Mai 2019 bydd yn ddigwyddiad cofiadwy arall blwyddyn nesaf.

Artistiaid Cymreig a Chymraeg

Un o’r enwau mwyaf amlwg ymysg y rhestr gychwynnol ydy Boy Azooga, a enwebwyd ar gyfer Gwobr Gerddoriaeth Gymreig, wrth iddo ddychwelyd i FOCUS Wales yn 2019 wedi corwynt o flwyddyn yn 2018 a welodd rhyddhau eu halbwm gyntaf, teithio’n helaeth trwy’r DU, Ewrop ac yn ddiweddar, yr Unol Daleithiau.

Mae’r ddeuawd pync-roc seicadelig The Lovely Eggs yn enw amlwg arall ynghyd â  BC Camplight, sef yr enw a roddir ar Brian Christinzio, y cyfansoddwr a’r aml-offerynnwr o‘r America.

Ymysg yr enwau Cymreig eraill amlwg mae Islet, Art School Girlfriend, Seazoo a Martyn Joseph.

Mae’r artistiaid Cymraeg cyntaf i’w cyhoeddi’n gymysgedd o’r newydd a’r profiadol – mae’r artist ifanc o Ddolgellau, Lewys, wedi bod yn prysur wneud enw i’w hun gan ryddhau senglau ar Recordio Côsh dros y misoedd diwethaf, a’r grŵp newydd sbon Blind Wilkie McEnroe ar fin rhyddhau eu EP cyntaf ar Recordiau I KA CHING. Ar y llaw arall, mae HMS Morris wedi rhyddhau eu hail albwm yn ddiweddar ac Ani Glass yn rhan o ddirprwyaeth FOCUS Wales i gynrychioli Cymru yng Ngŵyl Pop Montreal yn ddiweddar.

Rhyngwladol a sgyrsiau

Rhai o’r artistiaid eraill Cymreig sydd wedi eu henwi ydy Dan Bettridge, I See Rivers Kidsmoke a Rachel K Collier a byddan nhw’n perfformio ochr yn ochr ag artistiaid rhyngwladol fel Iris Gold (Denmarc) a Tallies (Canada).

Gellir gweld rhestr lawn o’r 50 perfformiwr a gyhoeddwyd hyd yma ar wefan FOCUS Wales.

Mae FOCUS Wales wedi datblygu i fod yn ddigwyddiad mwyaf y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru, gyda thridiau o baneli, anerchiadau o bwys, a chyngor gan y diwydiant, a bydd dros 250 o gynrychiolwyr proffesiynol y diwydiant cerdd yn glanio yn Wrecsam o bedwar ban byd.

Ymysg y siaradwyr cyntaf i’w cyhoeddi ar gyfer 2019 mae Martin Elbourne (Gŵyl Glastonbury), Anika Mottershaw (Bella Union), Bev Burton (Gŵyl Werin Caergrawnt), Kaptin Barret (Gŵyl Boomtown), Iggy Amazarray (Marshall Arts), Emma Zillmann (From the Fields), Mar Sellars (Mar on Music, Canada), Adam Taylor (Mothership Group), Rebecca Ayres (Liverpool Sound City),  ac Adam Ryan (The Great Escape).

Mae modd i artistiaid wneud cais i berfformio yn yr ŵyl, gyda dyddiad cau i wneud hynny ar  1 Rhagfyr.

Mae FOCUS Wales 2019 yn digwydd ar 16-18 Mai mewn lleoliadau amrywiol yn Wrecsam. Mae bandiau braich 3 diwrnod llawn i’w cael bellach ar wefan yr ŵyl. Mae tocynnau safonol yr ŵyl yn dechrau ar bris cyntaf i’r felin o £35 yr un.